Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

agos â'r un Eglwys na phlaid wleidyddol. Hoffai edrych ar chwarae pêl droed a chriced; hoffai wrando ar stori dda, ac adroddodd lawer un. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cyhoeddodd lyfr o'i i atgofion, "A Welshman Remembers." Oherwydd ei naturioldeb, y mae'r llyfr yn ddrych perffaith o'i awdur,dyn a i galon dyner, fawrfrydig, weithiau'n mynd yn drech na'i farn; llyfr sentimental a bron yn ddiniwed ar brydiau, ond yn y bôn yn bortread byw o ddyn ffyddlon a chywir, a heb derfyn ar ei garedigrwydd. "'Steel true, blade straight' — The Stevensonian line, Can better siress Than any words of mine His character and all the fine High chivalries that in him shine." Ac yn awr, ysywaeth, rhaid dweud "High chivalries that in him shone." Y MAE MWY NAG UN III. RHYS DAVIES (1) RHYS J. DAVIES, o Langennech, g. 1877. Yr Aelod Senedd dros Westhoughton, Sir Gaerhirfryn. Awdur Seneddwr ar Dramp, Pobl a Phethau, The Worhing Life of Shop Assistants, etc. (2) RHYS T. DAVIES, o'r Pentre Isa, Braich y Waun, Sir Drefaldwyn, g 1891 Prifathro Ysgol Ramadeg Treffynnon; Aelod o Bwyllgor Gweithiol y W.E.A. yng Ngogledd Cymru; Ysgrifennydd Cymdeithas Addysg Grefyddol yng Nghymru. (3) RHYS DAVIES, o Gwm Rhondda, g. 1903. Nofelydd a sgrifennwr storïau byrion am Gymru yn Saesneg. Jubilee Blues yw un o'i lyfrau gorau. Dyma rai eraill: A Pig in a Poke, The Red Hills, Honey and Bread, A Time to Laugh, Tomorrow to Fresh Woods, etc. Yn Rhifyn y Gwanwyn o LLEUFER, eglurodd Iorwerth Peate beth ydyw Gwerth Amgueddfa, a datganodd ei obaith y ceid Amgueddfa Werin yn yr awyr agored yhg Nghymru yn fuan. Cyn bod ei eiriau wedi eu hargraffu, yr oedd ei freuddwyd wedi dechrau cael ei sylweddoli. Cynigiodd Iarll Plymouth roddi ei blasty a'i barc yn Sain Ffagan, ger Caerdydd, yn rhodd i'r genedl, i wneud Amgueddfa Werin Gymreig, a derbyniwyd ei gynnig yn ddiolchgar. Addawodd Canghellor y Drysorfa y buasai'r Llywod- raeth yn rhoddi arian at helpu i'w chynnal. Bydd gan Dr. Peate ysgrif yn LLEUFER ymhellach ymlaen yn disgrino'rAmgueddfa hon, a'r cynlluniau i'wdatblygu. Na farnwn fywyd yn ôl y nifer o weithiau yr anadlwn, ond yn ôl y nifer o weithiau y byddwn yn dal ein hanadl. — W. H. Davies.