Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

UNESCO GAN GWILYM DAVIES Gwyddom oll am y sefydliad newydd ar bethau'r meddwl a gychwynnwyd o dan nawdd Y Cenhedloedd Unedig. "The United Nations Educational, Scientific and Cultural Organisation" yw ei enw yn Saesneg- yn fyr, "UNESCO, ymhob iaith. Bu cynrychiolwyr o bedair a deugain o wledydd, yn perthyn i'r Cenhedloedd Unedig, yn cyfarfod mewn Cynhadledd fawreddog yn Llundain o Dachwedd 1 hyd Dachwedd 16 y llynedd, a chytunwyd yn unfrydol ar y sefydliad sydd i gymryd lle'r Pwyllgor Cydwladol ar Bethau'r Meddwl a berthynai i'r hen Gynghrair. Ellen Wilkinson, y Gweinidog Addysg dros Loegr a Chymru, a etholwyd yn Llywydd y Gynhadledd, a Léon Blum, y gwladweinydd o Ffrainc, yn Gyd-lýwydd. Agorwyd y Gynhadledd, ar ran Llywodraeth Prydain, gan y Prif Weinidog, Mr. Attlee.- Yn ei araith, gofynnodd, "Onid ym meddwl dyn y cychwyn rhyfeloedd?" A phan awd ati i lunio Cyfansoddiad i'r sefydliad newydd,* trefnwyd i'r frawddeg gyntaf ddarllen fel hyn "Gan mai ym meddwl dynion y cychwyn rhyfeloedd, ym meddwl dynionymae'n rhaid creu hefyd amddiffynfeydd heddwch." A'r Cyfansoddiad yn ei flaen i bwysleisio'r ddyletswydd sydd ar y gwledydd i nesáu at ei gilydd yn ddiwylliannol, ac i barchu yn anad dim y gwerthoedd moesol ac ysbrydol. Pwrpas y Sefydliad fydd hyrwyddo ymhob ffordd bob ymgais i greu'r meddwl cydwladol a all wneud y gwledydd yn un, a holl bobloedd y byd yn gymdogion. Dylem ni yng Nghymru gymryd diddordeb arbennig yn UNESCO, oblegid ni fu'r un wlad yn fwy blaenllaw na Chymru, yn y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel, i gefnogi addysg gydwladol yn yr ysgolion. Ein Bwrdd Addysg Canolog oedd y cyntaf o holl Awdurdodau Addysg y byd i gymell athrawon i roi gwersi ar Gynghrair y Cenhedloedd. Gwnaeth hyn cyn belled yn ôl â Ionawr 1921. Ac ym mis Mai 1922, dechreuwyd ar gyfres 'o gynadleddau blynyddol-cynadleddau nodedig-yn y Gregynnog, i drafod addysg gydwladol yn ei holl agweddau. Yn y gynhadledd honno, penderfynwyd sefydlu Pwyllgor ar Addysg Gydwladol, a thrwy gyfrwng Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd trefnwyd gan y Pwyllgor hwn nifer mawr o gyfarfodydd o athrawon ledled Cymru, yn cael eu hannerch gan yr Athro C. K. Webster, ac eraill. Cyhoeddwyd llenyddiaeth ar sut i ddysgu egwyddorion cydwladoldeb, llenyddiaeth a dynnodd sylw athrawon mewn gwledydd tramor. A chafwyd, o flwyddyn i flwyddyn, yn y Gyn- hadledd yn y Gregynnog, arbenigwyr mewn addysg o wledydd y Cyfandir yn cyd-gyfarfod *Ftnal Act of the umted Nations Conference Jor the establishment of an Educational, Scientific and Cultural Organisation H.M. Stationery Office. 6d.net. Cmd 6711.