Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PWNC Y TAI GAN DYLAN PRITCHARD Nid pwnc newydd mohono. Bu cwestiwn y tai-sef diffyg cyflenwad o dai príodol-yn broblem ar hyd y canrifoedd, yn arbennig felly er amser y Chwyldro Diwydiannol. Weithiau, byddai'n llai nag arfer, ar ôl cyfnodau o fywiogrwydd mewn adeiladu; a phryd arall yn waeth, ar ôl dirwasgiad. Nid oes dim byd gwaeth na rhyfel am achosi dirwasgiad mewn adeiladu, ac y mae hyn yn fwy o wirionedd heddiw nag y bu erioed. Yn y chwe blynedd cyn y rhyfel diwaethaf yma, codwyd 1,936,000 o dai yng Nghymru a Lloegr; ond yn ystod chwe blynedd y rhyfel, nid adeiladwyd ond 150,000 yn unig. Afraid ymhelaethu ar y pwynt hwn. A ydyw problem y tai heddiw yn waeth nag yr oedd yn 1919 ? Parhaodd y rhyfel diwaethaf ddwy flynedd yn hwy na'r rhyfel o'r blaen. Dinistriwyd 220,000 o dai gan ymosodiadau'r gelyn o'r awyr yn y rhyfel olaf hwn. Ond rhaid peidio â chau llygad ar ddwy ffaith bwysig arall. Yn gyntaf, torrodd y Rhyfel Pedair Blynedd allan ar derfyn y dirwasgiad dycnaf a hwyaf yn hanes y diwydiant adeiladu, ac yr oedd "newyn tai" yn bod eisoes yn 1914. Ar y llaw arall, torrodd y Rhyfel Chwe Blynedd allan ar uchafbwynt y bywiogrwydd mwyaf yn hanes y wlad mewn adeiladu tai, ac yr oedd gormod o rai mathau o dai cyn y rhyfel hwn. Yn ail, yr oedd cyfanswm y cynnydd yn rhif y teuluoedd rywbeth yn debyg yn ystod y ddau ryfel; cynyddodd rhif y teuluoedd dros 100,000 y flwyddyn. ar ôl rhyfel 1914-18, ond fe amcan-gyfrifir y bydd y cynnydd blynyddol rhwng 1944 a 1951 yn llai na 30,000 ar gyfartaledd. O ystyried y ffeithiau hyn, a chymyyd bod popeth arall yn gyfartal, ymddengys fod problem y tai yn waeth yn 1919 nag ydyw heddiw. Ond a ellir maentumio bod pethau eraill yn gyfartal? Yn 1919, yr unig beth y gelwid amdano ydoedd adeiladu mwy o dai. Erbyn hyn, y mae cydwybod cymdeithas yn fwy effro, a sylweddolir bod eisiau tynnu i lawr filoedd, ie, miliynau, o dai anghymwys, a chodi rhai newydd yn eu lle. Yn ystod y rhyfel, dinistriwyd 220,000 o dai. Cynyddodd rhif y teuluoedd oddeutu 490,000. Ar ddechrau'r rhyfel, yr oedd eiteoes ryw 225,000 o dai wedi eu condemnio, ac yr oedd angen 275,000 o dai newyddion ar gyfer y gorboblogi (overcrowding) gwarthusaf. Felly, dyna alw am 1,210,000 o dai, ond dylid tynnu allan o'r nifer yma y 150,000 o dai a adeiladwyd yn ystod y rhyfel. Gellir casglu oddi wrth y bras amcan- gyfrifon hyn fod angen am dros filiwn o dai newyddion yng Nghymru a Lloegr ar unwaith, cyn y gall y sefyllfa fod cystal ag yr oedd yn 1939. Nid adeiladwyd erioed fwy na 350,000 mewn blwyddyn, ac felly-hyd yn oed cyn y rhyfel-nj ellid codi miliwn o dai mewn llai na thair blynedd. Yn y gorffennol, dibynnai'r galw am dai ar ddau ffactor, sef, yn gyntaf, y cynnydd blynyddol yn rhif y teuluoedd, ac yn ail, y "replacement rate," sef y cyfartaledd o dai yr oedd yn rhaid eu codi i gymryd lle'r rhai adfeiliedig, a'r rhai a oedd yn anghymwys i bobl fyw ynddynt. Hyd yn gymharol ddiweddar, y ffactor cyntaf oedd y pwysicaf o lawer; ond fe grybwyllwyd eisoes mai bychan ydyw'r cynnydd presennol yn rhif y