Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FY MRAWD DAFYDD GAN L. P. A Soeterboek Yr ydym yn deulu hynod o gytûn, neu, yn hytrach, nid ydym yn anarferol o anghytûn. Wrth gwrs, cawn ein mân gwerylon, yn arbennig fy mrawd Dafydd a minnau, ond ar y cyfan yr ydym yn gorff heddychol. Pump ydym mewn rhif, fy Nhad, fy Mam; fy chwaer Elsa, mi fy hunan, a'm brawd Dafydd. (Enwaf ef yn ddiwaethaf am mai ef ydyw'r ieuengaf o'r teulu.) I ni y mae heddwch y teulu yn rhan o fagwraeth dda, gan mai prif-gyfrifydd yn un o felinau cotwm Sir Gaerhirfryn yw Nhad. Rhannwn y byd yn ddau ddosbarth-pobl uwch na ni, a phobl is na ni. Yn naturiol, gan mai prif-gyfrifydd yw Nhad, rhestrwn ein hunain gyda'r bobl uwch na ni. Y mae hyn yn hanfodol i heddwch y teulu Pan â Dafydd a minnau dros y tresi, a gweiddi dipyn yn uchel, cawn ein ceryddu â'r geiriau mai "Prif-gyfrifydd yw eich tad." Bob tro y bydd Elsa mewn hwyl anghyffredin o ddrwg, caiff hithau yr un modd atgoffa iddi brif- gyfrifyddiaeth ei thad. Perthyn i'm brawd, sydd yn ddeng mlwydd oed, ddawn arbennig, y ddawn broffwydo. Cred Mam fod a wnelo'i enw Beiblaidd â hyn, er mai anfoddhaol yw ei gwybodaeth hi o'r Beibl (hynny yw, o safbwynt addysg gyfoes). Yr un mor anfoddhaol ydyw gwybodaeth Feiblaidd fy Nhad, ond er hynny gwrthododd esboniad Mam am ddawn Dafydd, heb ysywaeth, gynnig un arall yn ei Ie. Gwnaeth hyn am nad oes i Adam, mab hynaf yr ail-gyfrifydd yn y felin, gyffelyb allu. Er mor anfodlon ydym i gyfaddef y gafl proffwyd ymddangos yn nheulu prif-gyfrifydd, y mae, wrth gwrs, yn amhosibl credu i'r nefoedd gyfyngu'r ddawn broffwydo i ddosbarth o bobl is na ni. Gan mor anesboniadwy ydyw ffyrdd y nef, ychydig a ych- wanegwyd gennym at waith y gwybodusion a sgrifennodd lyfrgelloedd lawer ar y pwnc heb wybod fawr mwy na nyni. Ymddengys y ffeithiau yn anhygoel. Proffwydodd Dafydd ddiwedd y rhyfel flwyddyn cyn i hynny ddyfod yn ffaith. Dywedodd wrth Modryb Margiad y byddai'n wael iawn cyn hir, a hynny cyn iddi deimlo anhwyldeb o fath yn y byd. Dywedodd wrthyf innau y methwn yn fy arholiadau yn yr ysgol, a hynny a fu. Y mae llawer mwy o enghreifftiau, ond ni allaf eu cofio yn awr. Tyfodd enwogrwydd Dafydd ymysg ein perthnasau, a chredaf iddo fwynhau llawer mwy ar ei ddawn nag y bwriadwyd iddo erioed. Gwnaeth elw reit sylweddol hefyd yn y proses, canys gofynnai am arian (ac fe'u câi) i bwrcasu llyfrau am y sêr. Digwyddodd rhywbeth yn ddiweddar a roddodd oleuni newydd i mi ar ei ddawn, ond rhaid ichwi benderfynu drosoch eich hunain, canysymae a wnelo â'r enghraifft hynotaf o broffwydoliaethu a fu erioed mewn teulu cyfrifydd.