Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ATOM Gan W. R. Angus II. Yn fy ysgrif gyntaf, rhoddais fraslun o ddatblygiad syniadau pobl am gyfansoddiad mater hyd at oddeutu dechrau'r ganrif hon. Dywedais fod y syniadau hyn yn newid yn fawr tua'r amser hwnnw, a'i bod ýn anodd tdal i dderbyn y gosodiad bod yr atom yn anrhanadwy. Yr oedd mwy a mwy o dystiolaeth yn dyfod i'r golwg i ddangos nad oedd y gwahaniaeth ym mhwysau atomig yr elfennau ddim yn ddigon o eglurhad ar eu priodol- «ddau fferyllol. Heblaw hyn, yr oedd y berthynas rhwng priodoleddau fferyllol elfennau a'u. safleoedd yn y "tafleniad cyfnodol" yn rheswm cryf dros gredu bod adeiladwaith yr atomau yn debyg. Cyfododd cwestiynau eraill a hawliai eu hateb. Onid oedd sylweddau a boethwyd mewn amgylchiadau gwahanol yn arddangos nodweddion hollol wahanol i'r llygaid? Pan anfonwyd ffrwd o drydan drwy diwb a'r nwy wedi eu deneuo ynddo, gwelwyd bod mymrynnau (neu "fanynnau") yn dyfod allan o gathoed metel yr aparatws, sef y pegwn negatif. Yr un manynnau oeddynt bob amser; nid oedd dim perthynas rhyngddynt a'r sylwedd y gwnaed y cathoed ohono, nac a'r ychydig nwy a adawyd ar ôl yn y tiwb. Aeth rhai blynyddoedd heibio cyn inni gael yr eglurhad, ond yn y flwyddyn 1897 dangosodd J. J. Thomson fod gan y manynnau hyn a ddeuai allan o'r cathoed lawer o nodweddion; digon yma fydd nodi mai llwyth negatif o drydan sydd iddynt, a'u bod, fel y dywedais, yn rhannau hanfodol o bob defnyddiau cathoed. Fe'u gelwir erbyn hyn yn electronau. Gwyddom yn awr beth ydyw eu maint, a'u pwysau, a'u llwyth o drydan; y maent yn rhannau hanfodol o bob atom. Ni ellid credu mwyach fod yr atom yn anrhanadwy; ni ellid ei ystyried mwyach y mannyn sylfaenol yng nghyfansoddiad mater. Yr oedd y ffordd yn glir i ddisgrifio adeiladwaith y gwahanol atomau, a'r modd y lluniwyd hwynt o'r electronau a'r manynnau sylfaenol eraill Ond yr oedd yn rhaid cael un peth yn gyntaf. Yr oedd atomau yn newtral i drydan (neu yn ddi-drydan), ac yr oedd pwysau iddynt; ond yr oedd gan electronau lwyth negatif o drydan, ac yr oedd eu pwysau oddeutu un rhan o 1,8400 bwysau'r elfen fíeryllol ysgafnaf. Rhaid bod gan yr atom felly fanynnau eraill a oedd 1,840 o weithiau'n drymach nag electronau, a chanddynt lwyth positif o drydan i gyfateb i lwyth negatif yr electronau. Gelwir y manynnau positif hyn yn awr yn broionau. Atomau o heidrogen ydynt, a chanddynt Iwyth o drydan yn wrthwyneb i'r llwyth trydan sydd gan yr electronau. Casglwyd felly mai cyd-gynulliad o electronau a phrotonau ydyw pob atom. Cawn ddyfod yn ôl at y manynnau sylfaenol hyn ymhellach ymlaen, ond rhaid crwydro am foment, a sylwi ar dri ymchwiliad arbrofol pwysig iawn .a wnaed yn nechrau'r ganrif, ymchwiliadau sydd yn ymwneud yn