Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

O FANGOR I RYDYCHEN GAN R. TUDUR Jones Ni ddylai yr un Cymro deimlo hiraeth yn Rhydychen, oherwydd y mae- hanes y Brifysgol yn frith gan enwau ugeiniau o Gymry a fu.yma o'i flaen. Ond er hynny buan y teimla unrhyw laslanc, ac yn enwedig un a dreuliodd. ran o'i amser eisoes yng Ngholeg Bangor, ei fod mewn lle pur ddieithr wedi dyfod yma. Yn lle mynyddoedd Eryri, caiff yma gysgadrwydd gwastadeddau Lloegr; yn lIe antur Prifysgol ifanc, aeddfedrwydd oesol hen sefydliad. Buan y gwelir y gwahaniaeth rhwng Prifysgol sydd â hanner canrif o hanes tu ôl iddi a Phrifysgol sydd â chwe chanrif o hanes i feddwL amdano. Mewn gwirionedd, y mae'r gwahaniaeth rhwhg Colegau Bangor a Rhydychen yn amlycach na'r tebygrwydd. Ym Mangor bydd pawb yn adnabod ei gilydd-yn Rhydychen y mae adnabod pawb bron yn amhosibl. Y mae'r ffaith hon yn mynd ymhell iawn. Tuedda pobl Bangor i ddarganfod eu ffrindiau ymhlith pobl eu "blwyddyn" eu hunain. (Yr unig un a dorrodd y rheol hon yn gyson ydyw Ciwpid!) Yn Rhydychen, y Coleg ydyw'r cylch cyfrin a'r uned gyfeillachu-os oes y fath beth. Dilyd dweud yn y fan hon fod y Brifysgol yma'n bur debyg i ryw bump ar hugain o Fangorau wedi eu gosod gyda'i gilydd. Nifer o glarcod yn trigo yn nirgelion y Clarendon Buildings yw'r •"Brifysgol"; y Coleg, y bydd dyn yn aelod- ohoni yw'r peth byw-Coleg yr Iesu, Balliol, Oriel a Christ Church. Nid yr un peth yw amser ym Mangor ag yn Rhydychen chwaith. GWyr pawb yn dda fod Prifysgolion wedi dyfeisio blynyddoedd sydd yn fyrrach. o dipyn na blwyddyn Almanac Caergybi. I bobl Bangor y flwyddyn yw'r peth pwysig. Oni fedr myfyriwr ddyfod at ei waith erbyn dechrau'r flwyddyn. golegol ym mis Hydref, ni waeth iddo aros tan yr Hydref nesaf. Yn Rhyd- ychen y mae mor naturiol i ddyn ddechrau ei waith yn y Coleg ar ôl gwyliau 'r Nadolig neu'r Pasg ag yn yr Hydref. Yma y term sydd yn holl bwysig- tri ohonynt mewn blwyddyn, a phob un yn wyth wythnos ei hyd, yn dechrau ac yn gorffen ar y Sul. O safbwynt yr athrawon, golyga hyn y gallant ddarlithio ar ryw bwnc am derm, a rhoi pen ar y mwdwl yn y fan honno. Ond nid yw'r darlithiau yn cael yr un sylw yma ag a gânt ym. Mangor. Nid y ddarlith yw seiliau addysg yma, fel y mae yng Nghymru, ond y traethawd a'r drafodaeth unigol a phreifad gyda 'r tiwtor. Os digwydd. i ddyn anghofio'i ddarlithiau, ni bydd sôn am y peth ar ôl iddo fynd heibio, ond gwae hwnnw a esgeuluso ei draethawd. Ond i Gymro y peth sydd yn ei daro hyd yn oed yn fwy na'i ddarlithiau ydyw cysylltiad y Brifysgol â hanes Lloegr. Y mae hyd yn oed furiau'r- colegau yn frith gan gysylltiadau hanesyddol. I Sais y mae a wnelo 'r Brif- ysgol yn Rhydychen yn agos iawn â gwead ei bersonoliaeth. Yma yr addysgwyd deuparth ysgolheigion Lloegr, yma y cafodd llawer o'i gwlad- weinwyr lwyfan am y tro cyntaf erioed, ac yma hyd heddiw y bydd ei huchelwyr yn bwrw blynyddoedd eu haddysg. Nid oes yr un-un cysylltiadl rhwng Dafydd ap Gwilym, Llywelyn ein Llyw Olaf, neu Dudur Aled,. a Phrifysgol Cymru ag sydd rhwng Laud neu Wolsey a Rhydychen. Ym y cyfeiriad hwn y mae gorffennol Prifysgol Cymru eto o'i blaen.