Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr "Union" yw'r amlycaf o'r cymdeithasau. Math o glwb dethol yw hwn. Y mae iddo Lyfrgell gynhwysfawr, a chyfleusterau bwyta, ond fel cymdeithas ddadlau yr adnabyddir yr Union fynychaf. Cedwir y dadlau hyd y mae'n bosibl o dan yr un amodau ag a ddefnyddir yn Nhy'r Cyffredin, ac yma y cafodd llawer 0 Seneddwyr blaenllaw fwrw eu plu. Amser a ballai i gyfeirio at yr arferion (heb sôn am y straeon) sydd i'w cael yma, neu i ddisgrifio prydferthwch yr adeiladau, neu i roddi gwers ar sut i siarad Saesneg. Yn fwy na'r cyfan, nid wyf am fentro barn ar ragoriaethau Bangor ar Rydychen, neu ar ragoriaethau Rhydychen ar Fangor. Ond y mae gennyf farn ar y mater! RHAI O AWDURON Y RHIFYN Moses J. Jones — Athro yn yr Ysgol Ramadeg, y Rhyl; aelod o Bwyllgor Gweithiol y W.E.A. yng Ngogledd Cymru. R. Tudur Jones — Myfyriwr yng Ngholeg Mansfield, Rhydychen; cyn-Lywydd y Myfyrwyr yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Y PARCH. T. Ellis Jones — Is-Brifathro Coleg y Bedyddwyr, ac Athro yn yr Ysgrythur yn Yr Ysgol Ddiwinyddol, Bangor. DAVID J. LEWIS—Aelod o Ddosbarth Gellilydan, Sir Feirionnydd. Y PARCH. THOMAS LLOYD, Dwygyfylchi-Aelod o Ddosbarth Pen- maenmawr. DYLAN PRITCHARD—Darlithydd mewn Economeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Louis P. A. SOETERBOEK—Myfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor; Is-Almaenwr a ddysgodd Gymraeg mewn ychydig fisoedd, neu wythnosau. CYWIRO-t. 6, 11. 13, darllener Welsh Review yn lle Wales. Dyna ydyw pechod a thristwch unbennaeth-nid nad ydyw'n caru dynion, ond ei bod yn caru gormod arnynt, ac yn ymddiried rhy ychydig ynddynt. Pan fo dynion yn dechrau mynd yn orffwyll yn eu cariad at y bobl, pan fo anawsterau a chamgymeriadau dynoliaeth yn eu llethu, dyna'r pryd y gorchfygir hwynt gan awydd angerddol am gymryd y cwbl i'w dwylo eu hunain .­G. K. Chesterton. Defnyddir y gair "propaganda" weithiau fel pe buasai'r peth yn rhywbeth cywilyddus, ond y gwir, wrth gwrs, ydyw bob pawb ohonom yn defnyddio propaganda os ydym yn credu rhywbeth. Nid mewn propaganda y mae'r drwg, ond mewn propaganda anonest. — E. Morgan Humòhreys Y mae gan lenorion Saesneg gymdeithas a elwir y PEN Club. Rhoddwyd yr enw hwnnw arno am mai Poets, Essayists, a Novelists, ydyw ei aelodau.