Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EMRYS AB IWAN A'R ADAR GAN THOMAS LLOYD Rhai blynyddoedd yn ôl, traddododd E. Morgan Humphreys gyfres o ddarlithiau yn Rhuthun, a'r testun un noson oedd Emrys ab Iwan. Yr oedd nifer yn bresennol a wahoddwyd yn arbennig am eu bod yn cofio Emrys ab Iwan, ac wedi cael cyfathrach ag ef pan oedd yn weinidog yn Rhuthun, ac yn y Rhewl ar ô1 hynny. Ceisiwyd gan ajnryw ohonynt adrodd eu hatgofion amdano, ond rhyw "brofiad g^wneud", chwedl Puleston, oedd ganddynt, a chaem yr argraff nad oedd neb ohonynt wedi teimlo cyfaredd Emrys, nac wedi dychmygu ar y pryd fod eu gweinidog yn rhywun eithriadol fel pregethwr ac fel dyn. Ni adawsai argraff arhosol ar neb ohonynt. Wrth fy ochr eisteddai dyn o'r wlad, gŵr mewn gwth o oedran. Gofynnais iddo a oedd ef yn cofio Ambrose Jones pan oedd yn weinidog yn Rhuthun. "Ydw, yn iawn", meddai; ond cyndyn ryfeddol ydoedd i gymryd rhan yn yr ymddiddan. Wedi cryn gymell, fodd bynnag, daeth yn fwy rhydd, ac adroddodd beth o'i atgofion: "Yr oeddwn i yn lled ifanc y pryd hwnnw", meddai, "ac yn gweini mewn ffarm ychydig bellter o'r dre, a byddwn yn cyfarfod Mr. Ambrose Jones yn fynych, ar y ffordd neu yn y dre. Yr oedd yn ddyn agos iawn atoch, yn hollol ddifalch, ac yn tynnu sgwrs piyd bynnag y gwelai fi. Rwy'n cofio fy mod un bore yn dyfod gyda'r drol i'r dre, a phwy a ddaeth ataf ym Mhenbarras ond Mr. Jones. Wedi peth siarad, gofynnodd a oeddwn yn mynd i rywle y noson honno. 'Mae arna i eisio i chi ddyfod hefo mi i Goed Nantclwyd, os dowch chi. Mi gychwynnwn ni tua dau o'r gloch' Ni ddywedodd air beth oedd ganddo mewn golwg, ond gwyddwn yn dda ei fod yn cymryd diddordeb mawr mewn natur, ac yn enwedig adar gwylltion. Daeth Mr. Jones yn brydlon, a cherddasom ein dau yn y tywyllwch, dros dair milltir o ffordd, ac yna ar draws rhyw dri chae, nes dyfod i ymyl Coed Nantclwyd. 'Dyma ni', meddai, 'mi arhoswn ni yn y fan yma'. A dyna'r pryd y mynegodd gyntaf beth oedd ei neges. Yr oedd arno eisio cael gwybod pa aderyn oedd yn deffro gyntaf yn y bore. Wedi disgwyl peth amser yn y tywyllwch, a'r distawrwydd yn llethol, gwelem ryw argoel llewych y wawr yn y dwyrain. Ar hynny, dyna ryw wich isel, ac yna lais rhyw aderyn felpetai'n gofyn yn ofnus ple'r oedd, a chyda hynny dyna'i gymar ac yntau yn cael sgwrs fechan cyn gadael eu clwyd. Yn fuan, yr oedd adar eraill yn deffro ac yn canu, a Mr. Jones yn dweud pa adar oeddynt. Wrth ddyfod yn ôl, siaradai'n ddi-baid; yr oedd fel h»gyn wedi cael trysor." Dywedodd yr hynafgwr hwnnw iddo fod droeon gydag Ambrose Jones ar deithiau cyffelyb. GWyr pawb ohonom am Emrys ab Iwan fel meddyliwr annibynnol, a lluniwr pregethau meddylgar, a llenor Cymraeg o'r radd flaenaf Ond yr oedd cylch ei ddiddordebau yn llawer ehangach na chylch y proffwyd a'r llenor.