Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PA BETH l'W DDARLLEN 5. AR Y BEIBL GAN T. ELLIS JONES Cwynir heddiw fod gwybodaeth Feiblaidd yn diflannu o'n plith. I raddau helaeth iawn dynion Yr Un Llyfr oedd ein tadau, ac nid yw'n rhyfedd eu bod yn gwybod cynnwys y llyfr hwnnw, eithr heddiw aeth ein darllen yn beth eang iawn, a'r perygl ydyw inni esgeuluso'r Beibl, sydd o hyd yn "Llyfr y Llyfrau. Y mae'n Llyfr y Llyfrau mewn rhagor nag un ystyr. Nid yn unig yn yr ystyr mai ef yw brenin y llyfrau, ond hefyd yn yr ystyr mai llyfr ydyw a gynnwys ynddo'i hun amryw lyfrau. Ceir rhai pobl yn ymffrostio iddynt ddarllen eu Beibl drwodd droeon o glawr i glawr, eithr, ar y cyfan, darllen go anfuddiol ydyw'r math hwn o ddarllen. Bid siwr, rhaid darllen y Beibl i wybod dim amdano, a'r llyfr cyntaf i'w ddarllen er mwyn meddu gwybodaeth o'r Beibl ydyw'r Beibl ei hun. Ond rhaid cofio mai llyfrgell ydyw'r Beibl yn hytrach na llyfr. Rhyw bum can mlynedd yn ôl y galwyd ef am y tro cyntaf "Y Llyfr" (ton biblion) cyn hynny galwyd ef "Y Llyfrau neu "Yr Ysgrythurau," a phe buasem wedi cadw at yr enw gwreiddiol buasem wedi osgoi llawer o gamsyniadau am y Beibl-megis, er enghraifft, ysyniad bodpob rhan ohono'n gyfwerth, ac ar yr un lefel o ysbrydoliaeth. Llenyddiaeth cenedl yn ymestyn dros gyfnod o bedwar cant ar ddeg o flynyddoedd a geir yn y Beibl. Llyfrgell ydyw, ac. os ydym i'w ddeall y mae'n anhepgor inni ddysgu ein ffordd o amgylch y llyfrgell ryfedd hon. Dylid cofio hefyd mai llyfr crefydd ydyw'r Beîbl. Cronicl ydyw o'r datguddiad a roddes Duw ohono'i hun yn hanes, ac ym mhrofiad goreuon yr hil. Fe wneir cam mawr â'r Beibl pan wneir ef yn awdurdod ar bynciau eraill megis gwyddor, hanes, neu athroniaeth. Nid datguddio cyfrin achau'r cread oedd amcan Duw yn y Beibl, ond ei ddatguddio'i hun, ac yn y c'ylch hwn-y cylch uchaf i gyd-erys y Beibl yr awdurdod terfynol. Rhaid i'r sawl a fynno wybod ei Feîbl, a'i ddeall, gael syniad clir yn gyntaf amdano yn ei gyfanrwydd, a gwybod pa fodd y deall ysgolheigion ein hoes ni eu Beibl. I'r pwrpas hwn, nid oes well llyfr nag un yr Athro A. S. Peake, The Bible, Its Origin, Its Significance and Its Abiding Worth. Ymestyn y gyfrol hon dros faes eang iawn, gan gynnwys penodau ar ieithoedd gwreiddiol y Beibl, hanes casglu'r canon, hanes beirniadaeth ysgrythurol, ystyr ysbrydoliaeth y Beibl, ac yn y blaen. Llyfr llai ei faint a mwy diweddar yn delio â'r un pynciau ydyw eiddo Dr. H. H. Rowley, The Relevance of the Bíble. Awgrymwn hefyd The Authority of the Bible, Dr. C. If Dodd; The Interpretation of the Bible, a olygwyd gan C. W. Dugmore; The People and the Book, a olygwyd gan A. S. Peake; ac yn arbennig The Companion to the Bible, a olygwyd gan Dr. T. W. Manson. Ceir yn y gyfrol hon ysgrifau gan rai o brif ysgolheigion y dydd ar y pynciau y cydnabyddir hwynt yn awdurdodau arnynt. Cyfrol werthfawr arall- oherwydd yr ysgrifau a geir ynddi ar bynciau fel beirniadaeth ysgrythurol, daearyddiaeth Palesteina, hanes Israel o ddyddiau'r Macabeaid hyd ddyddiau Crist, cefndir y Testament Newydd, ac yn y blaen-ydyw A New