Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

JHis Heritage and Legacy, Kirsopp Lake; The Meaning of Paul for To-day, C. H. Dodd; Paul and His Predecessors H. M. Hunter; a The Ethics of JPaul, A. B. D. Alexander. Ac ar Eglwys y Testament Newydd darllener, The Christian Ecclesia, Fenton Hort; The Primitive Church, B. H. Streeter; a Jesus and His Church Newton Flew Tuedd yr ysgolheigion er dyddiau Baur a'r Ysgol Tubingaidd fu •dadansoddi'r Testament Newydd i wahanol ffynonellau. Gwelwyd bod ynddo deipiau gwahanol o athrawiaeth, ac ysgolion gwahanol o feddwl. Soniwyd llawer am "yr Athrawiaeth Gyntefig, "Athrawiaeth Paul," "Syniadau Iohannaidd," ac yn y blaen. Dansoddol ydoedd nodwedd amlwg beirniadaeth. Perygl hyn fu colli golwg ar yr unoliaeth ryfedd sydd yn y Testament Newydd. Y mae'n gwbl wir nad yr un yn hollol ydyw syniadau ac athrawiaeth Paul a Ioan, neu awdur Yr Epistol at yr Hebreaid, dyweder, ac eto y mae tir eang yn gyffredin iddynt. Gwêl Thai o ysgolheigion mwyaf llygatgraff ein hoes fod galw arnom bellach i "bwysl'eisio'r unoliaeth hwn yn fwy na'r gwahaniaethau. Ceir dau lyfr yn pwysleisio'r unoliaeth sydd yn nhystiolaeth holl ysgrifenwyr y Testament .Newydd, y byddai'n fuddiol iawn i'r efrydydd eu darllen, The Unity of the New Testament, A. M. Hunter; a The Apostolic Preaching, C. H. Doàd. Pwysleisir heddiw nad digon meddu gwybodaeth ysgolheigaidd am y Beibl. Ysgrifennwyd y Beibl i amcan neilltuol, a'i bwrpas ydyw ein gwneuthur yn hyddysg yn y pethau a berthyn i fywyd tragwyddol. Fel y dywaid Dr. Rowley mewn paragraff o The Relevance of the Bible, (t. 19), tra'n croesawu â breichiau agored y goleuni newydd ar y Beibl, rhaid .cydnabod bod angen dealltwriaeth ysbrydol ohono i feddiannu ei drysorau'n llawn. Yn ysbrydol y bernir y pethau ysbrydol, a rhaid i'r efrydydd ysgrythurol wrth ysbrydolrwydd mawr yn ogystal ag ysgolheictod, os ydyw i feddiannu'r etifeddiaeth deg a'i herys yn y Beibl. Llyfr Aelwyd y Plant, gan W T Williams, a Llyfr Anifeiliaid, gan Gwilym R. Jones. 2/6 yr un. Gwasg Gee. Nid llyfrau i Bobl mewn Oed ydyw'r rhain, oddieithr eu bod yn eu îiail blentyndod, ond y mae a wnelo Lleufer â phob peth sy'n ymwneud ag Addysg. Beth na roesem ni am gael llyfrau mor hardd a deniadol â'r Thain pan oeddwn i yn fy mhlentyndod cyntaf ? I blant bychain y mae'r Llyfr Anifeiliaid; argraffwyd ef mewn gwahanol liwiau, ond nid yw'r inc melyn cystal â'r lliwiau eraill. Llyfr o luniau a phosau i blant mwy ydyw'r llall Dau lyfr campus i blant, dwy garreg filltir arall tuag at ddysgu i'r plant garu llyfrau Cymraeg.-D.T.