Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWIBDAITH DOSBARTH GELLILYDAN GAN DAVID J. Lewis Pentref ym Maentwrog Uchaf, Sir Feirionnydd, ydyw Gellilydan, heb fod nepell o Flaenau Ffestiniog. Amaethyddiaeth yw'r prif ddiwydiant oddi amgylch, ffermydd bychain heb eu moderneiddio ryw lawer, ond lle y gwelwyd gynt y wedd yn aredig y tir, y mae'r hogyn yn awr yn gyrru'r tractor. Rhyw dair milltir oddi yma saif Trawsfynydd, enw y mae Hedd Wyn wedi ei anwylo a'i anfarwoli, a cher y pentref y mae'r Tyddyn Du, ffarm a chartref gynt i Edmwnd Prys. Saif y Moelwyn i'r gogledd-orllewin, yr un mor gadarn â phan wersyllai rhengau o filwyr Rhufeinig yn Nhomen y Mur, ryw filltir a hanner o'r pentref. Yno erys olion eu hamffitheatr, lle y gwelwyd ddydd a fu orchestion campwyr ymerodraeth Rufain. Ond dyma hi, yn naw o'r gloch ar fore o wanwyn, a'r bws yn disgwyl amdanom i fynd ar ein taith i ymweld â Choleg y Brifysgol, Bangor. Heibio i Gynfal Fawr, cartref Huw Llwyd a Morgan Llwyd, a chyn cyrraedd Llan Ffestiniog, draw yn y gwaelod ar y chwith, dacw ddyffryn godidog Maentwrog, un o'r golygfeydd harddaf yn y byd. Canfyddem, y bore hyfryd hwn, bob bryn a phant wedi ei wisgo â phrydferthwch arbennig, rhyw ffrwd fechan, efallai, yn llithro i lawr y llechwedd acw, ac yn ei waelod lyn bach, cysgodol, a chyn bo hir caiff y llecyn ei addurno â gwahanol liwiau gwyrdd y gwanwyn cynnar, ac ami dusw o friallu. Draw wele lyn llonydd, ac ynddo lun y coed helyg yn ymgrymu i'wgilydd, a iâr fach y dwr yn ymddangos am foment, ac yna'n cilio'n ôl i'w chuddfan yn y brwyn, neu i wreiddiau hen dderwen gadarn. Ac er hacred yr edrychai ami hen graig uchel, arw ei hwyneb, yr oedd er hynny'n gartrefle i'r cwnhingod, ac yn gysgod mewn drycinoedd i'r famog a'i hoen. Mynd trwy oriel Natur, filltir ar ôl milltir, dros y Crimea, a thrwy Fetws-y-Coed a Chapel Curig. Cawsom gipolwg ar yr Wyddfa ar draws Dyffryn My'mbyr, ac yna drwy Fethesda â ni, a chyn hir cyrraedd Bangor. Gweled ardderchowgrwydd gogoniant Natur, ac arni ôl y llaw fawr alluog-dyna a ddisgynnodd i'n rhan y bore hwn. Gan ein bod ychydig ar ôl yn cyrraedd, bu raid cyfeirio ein camre heb oedi tua'r Coleg, a gwelsom ef yn sefyll ar fryn uwch ein pennau. Wèdi inni gyrraedd yno, daeth Mrs. Silyn Roberts, â'i gwên garedig, i'n croesawu, ac i gyfarwyddo ein hysgrifennydd, E'mlyn Jones, ynghylch trefniadau'r dydd. Cyfiwynodd ni i'r athro dewisedig, sef Dr. Ifor Williams, ac arweiniodd yntau ni o amgylch yr Amgueddfa. Ni wyddom a ddaeth y Doctor ar draws rhyw wialen hud ymysg trysorau'r gorffennol rywdro, eithr ar drawiad, megis, aeth â'r dosbarth ar wibdaith yng ngherbyd Amser, nid ymlaen mwyach, ond yn ôl ac yn ôl, wyth fil o flynyddoedd. Eglurodd inni ystyron a phwrpas yr amrywiol fathau o hen gelfi-arfau o faen, ac o haearn a phres, dodrefn, gwisgoedd, a phriddlestri, â medrusrwydd ac awdurdod dihafal. Yr oedd ei ddisgrifiad byw o'r gaethferch yn y felin yn malu'r yd â'r meini a welwyd yn yr Amgueddfa, yn un o'r pethau gorau a glywsom erioed. Daeth â'r gwaith caled a blin mor real ger ein bron, bu raid inni ffrwyno ein dychymyg, onid e, buasem wedi gweiddi arno am ollwng y gaethferch yn rhydd