Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Ffyrdd a Ffydd: Ysgrifau ar Hanes, Daliadau, a Bywyd Rhai o'r Cyrff Cristnogol yng Nghymru. Dan Olygiaeth y Patch. Abel Ffowcs Williams. Gwasg Gee. 3/6. Er gwaethaf y teitl chwithig sydd i'r llyfr hwn­gwell 0 lawer fuasai ei alw yn "Ffyrdd y Ffydd"— y mae ynddo ddisgrifiad diddorol o ddaliadau saith adran o'r Eglwys Gristionogol. Ysgrifenna Dr. J. Bairett Davies ar "Y Syniad Catholig am Ffydd", a chais ateb y feirniadaeth gyffredin ar Eglwys Rufain ei bod hi'n anoddefgar, a'i.bod yn anfodlon cydweithio â'r gweddill. Ei safbwynt hi yw "na all fod rhannau o Eglwys Dduw yn croes-ddywedyd ei gilydd Gellir dal ein bod oll ar gyfeiliorn, ond nid ein bod oll yn ein lle". Y mae Dr. Davies yn ymresymu'n ddiddorol a hyderus. Am yr Eglwys yng Nghymru, deil y Canon W. H. Harris mai hynafiaeth yw un o'i nodweddion; y mae hi'n olrhain ei hachau yn ôl bedair canrif ar ddeg at Ddewi Sant. Y mae'r ymdriniaeth â'r Cyfansoddiad a luniwyd i'r Eglwys yng Nghymru pan ffurfiwyd hi'n dalaith ar ei phen ei hun yn 1920 yn newydd a difyr. Ar ryddid barn a chydwybod y rhydd yr Annibynwyr eu pwyslais mawr, medd y Parch. T. Eurig Davies. Cnewyllyn y profiad crefyddol iddynt hwy yw'r cyd-gyfarfyddiad rhwng Duw a dyn—"yr ennyd ddihafal a geir yn y berthynas o 'Fi a Thi', pan gyfarfyddo dyn â DuwyngNghrist, yw'r ennyd greadigol o hyd mewn crefydd". Am y Bedyddwyr, noda'r Parch. J. Mansel John fod y mwyafrif mawr ohonynt erbyn hyn yn gwahodd pob credadun at fwrdd y Cymun, er, "hyd yn hyn, ni ddaeth mwyafrif Eglwysi'r Bedyddwyr yng Nghymru yn swyddogol i'r safbwynt hwn, a glynant wrth resymeg gaeth Calfiniaeth". Rhif y Crynwyr drwy'r byd yw tua dau can mil, medd George M. Ll. Davies. Hwynt-hwy yw'r bobl sy'n rhoddi pwys ar "gymundeb ysbryd yn hytrach nag ar gyfundrefn eglwysig neu ar ddatganiad diwinyddol". Dyma bobl a "anturiodd i gymoedd Cymru yng nghyni'r glowyr di-waith yn 1926, i geisio bod yn gymorth cyfamserol iddynt". Y Parchn. Gomer Roberts a Griffith T. Roberts sy' n ysgrifennu ar y ddau enwad Methodistaidd. Y mae'r cyntaf yn ei faes cynefin wrth drafod arweinwyr y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Williams Pantycelyn oedd y mwyaf ohonynt oll nid oedd Daniel Rowland yn ddim ond pregethwr mawr-a "phregethau benthyg ydyw rhai o'i bregethau cyhoeddedig". Ac ni chynhyrchodd Charles o'r Bala ddim o werth llenyddol yn ystod ei oes-dyn heb fflach o athrylith oedd yntau. Thomas Jones, o Ddinbych, oedd y meddyliwr praffaf yng Nghymru yn nechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Y mae'r Parch. G. T. Roberts yn olrhain yn ysgolheigaidd a gafaelgar syniadau a theithi meddwl y gtirr mawr hwnnw, John Wesley. Wel, dyna rai pigion a dynnwyd allan ar antur o blith y saith ysgrif. A pheth da fydd eu darllen y dyddiau hyn pan yw pregethu ac astudio athrawiaeth yn bethau mor ddieithr i grefyddwyr ein gwlad.