Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Plant y Llawr, gan R. Meirion Roberts. Gwasg Gee. 2/ Bu'r Parch. R. Meirion Roberts yn Gaplan gyda'r Lluoedd yn y Dwyrain Canol yn ystod y Rhyfel, a ffrwyth ei brofiadau yn y cyfnod hwnnw yw'r caneuon sydd yn y gyfrol hon. Ceir ynddynt ganu telynegol swynol, a rhyw nodyn prudd dwys-felys, sydd yn dwyn ar gof farddoniaeth A. E. Housman, i'w glywed ymhob cân ­tinc hiraeth am Gymru ac am deulu, a chyfaill a chydnabod. Fe gân y bardd yn yr arddull draddodiadol, heb geisio torri tir newydd, ac y mae'n cyfansoddi'n gynnil a graenus, â llawer llinell brydferth sy'n glynu yn y cof i'w gael yn y caneuon hyn. Dyma un o'r telynegwyr ifainc gorau sydd gennym yn canu heddiw yng Nghymru. Hwyrach mai'r gân orau yn y gyfrol yw'r soned, "Ymladd Gorffennaf"; er enghraifft "Fe ddaeth, fe ddarfu dydd eich oed â'r Angau, Dyfal eich darpar at y neithior ddwys; Ciliodd o'ch eiddil gyrff yr olaf bangau, Ni'ch lluddir mwyach gan y dydd a'i bwys. O gyd-gymdeithas fud O lendid oer O ,egni byw mor llonydd dan y lloer". Cyflwynir y gyfrol i'r Prifathro David Phillips, Y Bala, a'i dysgodd "am gelfyddyd egwyddorion", ac i'r Athro Tom Parry, Bangor, a'i dysgodd "am egwyddorion celfyddyd". MOSES J. JONES CYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr-Ernest Green, 38a St. George's Drive, London, S.W.I. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr- D. T. Guy, Swyddfa'r W.E.A., 38 Charles Street, Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr— C. E. Thomas, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. Golygydd LLEuFER-David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER-D. Tecwyn Lloyd, Pen-y-Bryn, Glanrafon, ger Corwen. Dosbarthwr LLEUFER—Mrs. Vera Meikle, «Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor.