Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PWYLLGOR ADDYSG YR UNDEBAU LLAFUR (WORHERS' EDUCATIONAL TRADE UNION COMMITTEE) GWERSI DRWY'R POST Y mae'r W.E.T.U.C. wedi trefnu gyda Choleg Ruskin i- roddi Gwersi drwy'r Post i aelodau Undebau Llafur-gwersi an ECONOMEG, HANES DIWYDIANT, Y MUDIAD LLAFUR, CYFRAITH UNDEBAU LLAFUR, LLYWODRAETH LEOL, MEDDYLEG, LLEN SAESNEG, Y DDRAMA, ATHRONIAETH^ RHESYMEG, ESPERANTO, a nifer o bynciau eraill. Rhoddir y gwersi hyn yn rhad ac am ddim i aelodau'r Undebau. a ganlyn— Trawsgludwyr a Gweithwyr Cyffredin Gweision Ffermydd Gwneuthurwyr Boeleri a Gweithwyr Haearn a Dur Gwyr y Ffwrneisiau Blast Gweithwyr y Post Peirianwyr y Post Argraffwyr Lithograffwyr Gweithwyr Bwrdeisiol Gweithwyr y Siopau Teilwriaid Cryddion Pobwyr a Chyffeithwyr Gofaint a rhai eraill. Y mae rhai Undebau eraill — Clarcod y Ffyrdd Heyrn, a Chlarcod y Gwasanaeth Gwladol, er enghraifft-yn barod i dalu rhan o gostau'r Gwersi. Gellir cael pob manylion ond anfon at Ysgrifennydd y W. E. T. U. C*. yn Swyddfa'r W.E.A. yng Nghaerdydd neu Fangcr:— D. T. GUY, 38 Charles Street, Caerdydd. C. E. THOMAS, Coleg y Brifysgol, Bangor.