Welsh Journals
Search over 450 titles and 1.2 million pages
CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR (THE WORKERS' EDUCATIONAL ASSOCIATION) Sefydlwyd CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR yn 1903, gan Undebwyr Llafur ac aelodau o Gymdeithasau Cyd- weithredol, a'i hamcan i ddwyn Addysg y Prifysgolion i gyrraedd gweithwyr o bob dosbarth. Mudiad Llafur ydyw, heb fod yn perthyn i'r un blaid wleidyddol nac enwad crefyddol fwy na'i gilydd. Rheolir ef gan yr Aelodau eu hunain, ac y mae ei gyfansoddiad yn gwbl ddemocratig. Bwriedir DOSBARTHIADAU'R W.E.A. i ddarparu cyfleus- terau Addysg i Bobl mewn Oed, yn feibion ac yn ferched. Ymhlith y pynciau a astudir ynddynt bydd Economeg, Hanes. Llenyddiaeth, Meddyleg, Athroniaeth, Gwyddor Gwleidyddiaeth. Llywodraeth Leol, Cerddoriaeth, a phynciau eraill sydd tu allan i waith beunyddiol yr aelodau. Sefydlir Canghennau o'r W.E.A. mewn canolfannau cyflcus i hyrwyddo gwaith y brif Gymdeithas. Yn gysylltiedig â hwy ceir Canghennau o Undebau Llafur, Cynghorau Llafur, Cymdeithasau Cydweithredol, Clybiau'r Gweithwyr, Undebau Athrawon, Cymdeithasau Gwleidyddol, ac aelodau unigol. Bydd yn rhan o waith y Gangen drefnu dosbarthiadau yn y cylch, a hefyd trefnu Darlithoedd Unigol, Ysgolion Undydd ac Ysgolion Haf, a Chynadleddau a Chyfarfodydd Cyhoeddus i oleuo barn y wlad ar bynciau Addysg. Cyn sefydlu Cangen mewn un ardal fe ddylid ymgynghori yn gyntaf â'r Trefnydd, un aiD. T. GUY, 38 Charles Street, Caerdydd, neu C. E. THOMAS, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor.