Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLCHORAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNO NOHYMRU CYF. III GWANWYN 1947 Rhif 1 NODIADAU'R GOLYGYDD YSGRIFENNODD Thomas Hardy nofel wych, The Return of the Native, ond yn ôl Dr. Tom Jones," yn ei lyfr newydd,* The Native Never Returns (Ni Ddychwel Neb "i'w Fro), a hynny am ddau reswm-erbyn iddo ddychwelyd, nid yr un-un ydyw'r fro, ac nid yr un-un ydyw yntau. Dweud ei brofiad y mae Dr. Jones yn y frawddeg hon. Ganed a magwyd ef yn Sir Fynwy aeth o Gymru a dychwelodd iddi aeth i ffwrdd eilwaith a dychwelyd drachefn ac yn awr edrycha ar Gymru â llygaid beirniadol gẃr a fu'n troi mewn cylchoedd dieithr ac a ymgynefìnodd â safonau tramor. Yn ei ieuenctid, bu'n un o arloeswyr y Mudiad Sosialaidd yn Ne Cymru; aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, a'i fryd ar fynd yn weinidog Meth- odist; aeth oddi yno i Brifysgol Glasgow yn fyfyriwr, ac yna bu'n ddarlith- ydd ar Economeg yno ac yn Belfast. Traddododd anerchiad i Wyl Lafur y Chwarelwyr yn 1910 a arweiniodd i sefydlu Mudiad Addysg y Bobl Mewn Oed yng Ngogledd Cymru, a'r flwyddyn wedyn daeth i Gymru yn Drefnydd cyntaf y Mudiad i Ymladd y Darfodedigaeth. Wedi bod yn Ysgrifennydd cyntaf y Dirprwywyr Yswiriant, a'r Bwrdd Iechyd Cymreig, symudodd i Lundain yn 1916 i fod yn Is-Ysgrifennydd y Cabinet, ac yno y bu nes ym- ddiswyddo yn 1941. Gwnaeth ei gartref yn Harlech-yr oedd yn Gadeirydd Coleg Harlech o'i gychwyniad hyd yn ddiweddar-ac wedyn yn Aberystwyth, ac yn awr y mae'n Llywydd ei hen goleg yno, y cyntaf o hen fyfyrwyr y coleg i dderbyn yr anrhydedd uchel hon. Casgliad o anerchiadau ac ysgrifau ydyw ei lyfr newydd, ac nid yn aml y oyhoeddir llyfr ag ynddo gymaint o bethau i ddeffro meddylgarwch y darllenydd. Cytuno ag ef neu beidio, fe'n gorfoda i feddwl, a dyna'r prif fudd a ddeillia inni o ddarllen rhai mathau o lyfrau. Darllen y byddwch," meddai Emerson, i gychwyn eich gwedd eich hun." Ceir yma ysgrifau ar Henry Jones, a Lloyd George, a Winston Churchill, ac ar y Blaid Ryddfrydol, ac anerchiadau a draddodwyd i'r Cymmrodorion, i ddosbarth y W.E.A., i Gymdeithas Lenyddol Coleg, ac i Ganolfan GymdeithasoL Ymhlith yr ysgrifau y mae'r un a gyhoeddwyd yn The Observer yn 1944 ar MuÜitude and Solitude" —y llais cyntaf, mi gredaf, a gyfodwyd (o leiaf, yn y papurau Saesneg) i wrthdystio yn erbyn Gwersyll Butlin yn Eifionydd. Teitl yr anerchiad cyntaf ydyw teitl y lIyfr­anerchiad a draddodwyd i Gymmrodorion Caerdydd yn 1942. Bwrw golwg a wna'r awdur ar y newid a ddaeth dros Gymru yn ystod y chwarter canrif y bu i ffwrdd-ei haddysg, ei llenyddiaeth, ei chrefydd, ei gwleidyddiaeth, ei llywodraeth leol, ei bywyd gwledig. Sylwa ar gyfraniad gwerthfawr y Brifysgol i ysgolheictod Gymraeg, ond cwyna mai ychydig iawn o'i graddedigion sydd yn gwasanaethu ar iPhe Native Never Returna, by Thomas Jones. Willliam GriflSths a'i Gwmni, Llundain. Pris 7/6.