Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYTUNDEB BRETTON WOODS Gan E. CADFAN JONES "YTM mis Gorffennaf 1944, cyfarfu 400 o Gynrychiolwyr o 44 gwlad mewn Cynhadledd fawr yn Bretton Woods, yn yr Unol Daleithiau, ar wahoddiad yr Arlywydd Roosevelt, i ystyried cynlluniau i hyrwyddo masnach gydwladol drwy gael gwell trefn ar farchnad arian y byd. Buasai arbenigwyr o'r prif wledydd yn trafod y materion hyn am ddwy flynedd ymlaen llaw, ac yn drafftio cytundebau i'w hystyried gan y Gynhadledd. Cytunwyd yno ar ddau Gynllun mawr, sef, casglu ynghyd Gronfa Arian Gydwlaäol i sefydlogi marchnad arian y byd, a sefydlu Banc Canolog mawr i gynorthwyo Ad-drefniad a Datblygiad y gwledydd. Ceisiaf egluro pwrpas y Gronfa Arian yn yr ysgrif hon. Amcan Cytundeb Bretton Woods ydyw edfryd i beirianwaith masnach y byd yr hyn a gollwyd pan orfu i'r gwledydd gefnu ar y safon aur. Yn ystod y blynyddoedd diweddar ceisiodd y gwledydd fasnachu â'i gilydd gystal ag y gallent heb gynhorthwy un safon swyddogol y gellid penderfynu wrthi werth arian un wlad yn nhermau arian gwlad arall. Nid yw masnach gydwladol wedi datblygu ar ôl hynny, ond yn hytrach tueddodd i edwino, a pharodd hynny ddiflastod a siom, yn enwedig yn y gwledydd sy'n dibynnu ar y farchnad dramor am ran helaeth o'u bywioliaeth. Ar hyn o bryd, pan êl masnachwr tu allan i'w wlad ei hun i brynu, rhaid iddo ystyried dau bris- i ddechrau, y pris a ofynnir gan y gwerthwr, ac yn ail, pris arian y wlad honno yn y farchnad arian yn nhermau arian ei wlad ei hun. Yr ail bris sydd yn debyg o achosi'r pryder mwyaf iddo, oherwydd (1) tuedda i fod yn an- sefydlog, a (2) bydd gwahaniaeth bychan yn y pris hwn, ar y naill ochr neu'r Hall, yn penderfynu y rhan amlaf pa un ai ennill ai colled a fydd ar y fargen. Ac y mae ansicrwydd fel hyn yn elyn marwol i fasnach a thrafnidiaeth. O dan y safon aur yr oedd arian pob gwlad mewn perthynas penodol â'i gilydd o ran eu gwerth, a gellid newid arian un wlad am arian y Hall yn rhwydd yn ôl yr angen, drwy gyfrwng aur. Er hynny, nid oedd hi'n arfer ymhlith masnachwyr anfon aur i'w gilydd fel tâl bodlonent yn hytrach i brynu a gwerthu arian ei gilydd drwy gyfrwng biliau cyfnewid yn y farchnad arian, cyhyd ag na chodai pris yr arian yn uwch na chost cludo aur o un canolfan i'r llall. Er enghraifft, ped âi pris y ddoler yn y farchnad arian yn afresymol uwch na'r pris safonol, gellid newid punnoedd yn aur a'i gludo i America, a'i newid drachefn yn ddoleri. Byddai'r gost chwanegol o wneuthur hyn yn gymharol fychan. Er mwyn sicrhau manteision cyffelyb i fasnach rhwng gwlad a gwlad yn y dyfodol, bwriedir casglu Cronfa fawr o arian yn ôl Cytundeb Bretton Woods. Os daw Rwsia i mewn, bydd y Gronfa'n 8,800 miliwn o ddoleri. Cyfrennir ati gan bob gwlad yn ôl maint ei masnach dramor, a phenderfynir maint cyfraniad pob un gan awdurdodau'r Ffynd. Cyfranna'r Unol Dal- eithiau 2,750 miliwn, Prydain 1,150 miliwn, a Rwsia 1,200 miliwn. Bydd