Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

NELI DYWYLL Gan ERNEST ROBERTS A R fin y ffordd fawr rhwng Newton Stewart a Twynholm, yn ne-orllewin Sgotland, yr oedd llecyn a elwid gynt yn Harper'a Hole." Pwll gro a thywod ydoedd, ac wrth basio'r lle wedi iddi nosi fe daerodd ami Sgotyn iddo glywed miwsig telyn o gylch y fan. Mynnai'r rhai a fu'n ddigon gwrol i oedi ar y ffordd o flaen y pwll iddynt hefyd weld ysbryd y telynor yn esgyn o'r tywod, ac yn diflannu dros y dorlan. Erbyn heddiw, diflannodd yr ysbryd yn gyfan gwbl, ond erys y ffeithiau a greodd y stori. Tua hanner awr wedi deg, fore Sul, Ebrill 21, 1816, clywodd rhai o bobl y fro ful yn brefu yng nghyffiniau'r pwll gro, a phan aethant i chwilio am yr ymwelydd dieithr hwn, fe'i gwelsant yn cerdded yn ôl ac ymlaen ar y ffordd o flaen y pwll. Tu mewn i'r pwll gwelsant drol fechan o wiail, ac yn ei hymyl delyn deir-rhes wedi ei darnguddio gan y gro a'r tywod, ac wrth gloddio ati daethant o hyd i ŵr oddeutu hanner cant oed. Yn gorwedd wrth ei ochr yr oedd ei wraig, â phlentyn ychydig fisoedd oed wrth ei bron, a dau fachgen a dwy eneth arall-yr hynaf ohonynt yn ddwy ar bymtheg oed. Yr oeddynt oll yn feirw-Huw Prichard, Braichtalog, Tregarth Neli Dywyll, ei wraig a phump o'u plant. Dyna seiliau stori ysbryd Twll y Telynor." Os trowch i Llyfr Cerdd Dannau Robert Griffith, fe gewch ychydig o hanes y teulu hwn, dan enw Ellen Cadwaladr. Yr oedd Ellen, neu Neli, yn ferch i Hugh Cadwaladr, Braichtalog. Awgrymir gan rai ei bod yn ferch i giwrad, ond prin y tybiaf fod hynny'n gywir. 0 leiaf, nid ciwrad oedd Huw Cadwaladr. Un o gyffiniau Caernarfon oedd Huw Prichard, ei gŵr, ac fe ymbriododd â Neli yn Eglwys Llandygái, Mehefin 24, 1787, ac wrth chwilio yn ddiweddar am brofion pendant o enw y gWr, fe welais y groes a dorrwyd gan y ddeu- ddyn hyn ddydd eu priodas ar gofrestrau'r plwyf-gant a thrigain o flynydd- oedd yn ôl. Wedi priodi hefo Neli ymddengys i Huw ymgartrefu ym Mraich- talog. Ni wn yn sicr sut yr enillai ei damaid, ond ar brydiau byddai'n gwerthu cocos ym Mangor a Dyffryn Ogwen. Yr oedd Neli yn delynores enwog, a byddai'n cyfeilio mewn eglwysi i gantorion carolau ar uchel- wyliau'r eglwys. A Neli Dywyll oedd telynores fwyaf poblogaidd y broydd hyn mewn gwylmabsantau a nosweithiau llawen. Ni wn chwaith am faint y bu Huw yn briod cyn iddo ymuno â'r fyddin, a hwylio i'r Aifft yn erbyn Napoleon. Ond daeth yn ei ôl o'r Aifft yn ddall, ac ni fedrai mwyach hel cocos yn Nhraeth Lafan a galwedigaeth i gyn-filwyr mewn canrif ddiwedd- arach, bid siwr, oedd gwerthu peli camffor ar waelod Allt Glanrafon. Ni fedrai Neli chwaith ddal ei dwylo ym Mraichtalog tra byddai ei theulu mewn eisiau. Felly, trodd Huw a Neli gyda ffidil a thelyn i glera ar hyd a lled y wlad. Ac ar grwydr fel hyn y buont am rai blynyddoedd, gan alw yn awr ac yn y man yn yr hen gartref wrth odre Moelyci, ac ymuno yn nosweithiau llawen eu hen ffrindiau yn y dyffryn. Daeth Nadolig 1815-y Nadolig cyntaf ar 61 brwydr Waterlŵ. Ym. gynullodd plwyfolion Llanllechid a Llandygái i'w carolau plygain a'u nos- weithiau llawen, ond yr oedd eu hoff delynores ar un o'i chrwydradau ac yn bwrw'r ŵyl gyda'i phriod dall a'i phum plentyn rywle rhwng Dulyn a