Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAWR YDYW CESAR (Trosiad o For the Time Being," gan W. H. Auden) Gan D. TECWYN LLOYD Mawr ydyw Cesar gorchfygodd Saith Deyrnas, Y Gyntaf oedd Teyrnas y Syniad Haniaethol Twm, Dic a Harri oedd hi neithiwr, ond heno mae Trefn Yn Ue acen a threigliadau Mae trefn geiriau ac arddodiaid Yn Ile gwrthrychau cyntefig yn eu diddymu eu hunain Y mae rhywogaeth sy'n ei hail adrodd ei hun Yn Ile demoniaid yr afon a chythreuliaid y coedydd Cafwyd un sylfaen gyffredin i Fodolaeth. Mawr ydyw Cesar rhaid bod Duw wrth ei benelin. Mawr ydyw Cesar gorchfygodd Saith Deyrnas. Yr Ail ydoedd Teyrnas Achosion Naturiol Neithiwr 'roedd hi'n Bymtheg-i'r-Dwsin, heno mae'n Ddau-a-Dau Yn lle dweud Rhyfedd yw mympwy y cryf," Dywedwn Caled yw'r Ddeddf, ond mae'n sicr." Yn Ile codi temlau, adeiladwn labordai; Yn Ile cynnig offrymau, cynhaliwn arbrofion Yn lle adrodd paderau, darllenwn y mesurydd Troesom bellach oddi wrth fympwy, a byw yn effeithiol. Mawr ydyw Cesar rhaid bod Duw wrth ei benelin. Mawr ydyw Cesar gorchfygodd Saith Deyrnas. Y Drydedd oedd Teyrnas y Rhif Diddiwedd Pen-bawd oedd hi neithiwr, heno Popeth-i'r-Dim Yn Ile Tipyn-go-lew, cawsom yr Union-Gÿfrif Yn Ue Braidd-yn-Denau-oedd-hi, cawsom y Nifer-Manwl; Yn Ile dweud, Rhaid ichwi aros imi gael amser i gowntio," Dywedwn Dyma chwi, cewch fod yr ateb yn gywir Yn Ue rhyw fras syniad am ychydig ffigurau, Mae'r Trosgynolion yn gyfeillion mynwesol inni. Mawr ydyw Cesar rhaid bod Duw wrth ei benelin. Mawr ydyw Cesar gorchfygodd Saith Deyrnas. Y Bedwaredd oedd Teyrnas Cyfnewid Credyd Un-yn-Fendin oedd hi neithiwr, heno C.O.D. Pan fo gennym droswerth, 'raid inni ddim cwrdd neb â dyled, Pan fo gennym ddyled, ni raid cwrdd neb â throswerth.; Yn Ue blociau o aur, mae gennym ei werth mewn papurau Yn Ue Talwch-ar-Unwaith, Talwch-pan-Fedrpch Yn lle Fy Nghymydog mae gennym Ein Cwsmeriaid Ac yn Ue Ffair-y-Llan, y mae'r Farchnad-Fyd. Mawr ydyw Cesar rhaid bod Duw wrth ei benelin.