Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mawr ydyw Cesar gorchfygodd Saith Deyrnas. Y Bumed oedd Teyrnas y Cewri Anorganig O'r-Tad-Mawr oedd hi neithiwr, ond heno S'mai Os mynnwn rywbeth, fe'i gwnânt inni Os na hoffwn rywbeth, fe'i newidiant inni Os mynnwn fynd i rywle, fe'n cludant ni; Os bygythia'r Anwariad ni, codant darian ddisyfl i'w erbyn, Os bygythiwn ninnau'r Anwariad, noethant gleddau di-ildio Nid rhaith Mater mo Dynged erbyn hyn, ond rhyddid y Meddwl. Mawr ydyw Cesar rhaid bod Duw wrth ei benelin. Mawr ydyw Cesar gorchfygodd Saith Deyrnas. Y Chweched oedd Teyrnas y Corachod Organig Och, Och, oedd hi neithiwr, ond heno O Ce Os cawn afiechydon, fe'u trawant yn farw Os cawn lawer o drafferthion, fe'u bwriant ymaith Os cawn boen a thrallodion, fe'n cadwant rhag anurddas Pan deimlwn fel defaid, fe'n hadferant o'n cyni Pan deimlwn fel ysbeiddiaid, fe'n gwnânt yn stalwyni Nid dan garnau'r Cnawd y mae'r Ysbryd ond yn y ffrwyn. Mawr ydyw Cesar rhaid bod Duw wrth ei benelin. Mawr ydyw Cesar gorchfygodd Saith Deyrnas. Y Seithfed oedd Teyrnas yr Enaid Poblogaidd Neithiwr bloeddid Steddwch-i-Lawr, ond heno Clywch-Clywch Pan ddywaid, Byddwch hapus, fe chwarddwn Pan ddywaid, Byddwch drist, fe wylwn Pan ddywaid, Credwch hyn, Dyma'r gwir, fe'i llyncwn A phan ddywaid, Dyma gelwydd, fe'i gwrthodwn A phan ddywaid, Dyma dda, fe'i carwn, Neu, Dyma ichwi ddrwg, fe'i casawn. Mawr ydyw Cesar rhaid bod Duw wrth ei benelin. Y MAE MWY NAG UN VI. J. T. JONES (1) JOHN THOMAS JONES, g. 1888, yn Rhos Llanerchrugog. Prifathro Ysgol Ramadeg Riwabon awdur Cofiant Chriatmaa Evana Cadeirydd Pwyllgor Llên Eisteddfod Genedlaethol y Rhos, 1945. (2) JOHN THOMAS JONES, g. 1894, yn Llangernyw. Prifathro Ysgol Fodern Porthmadog awdur Y Llanc o Sir Amwythig, Dirgelwch y Ffilm, a'r Englyn Cenedlaethol i'r Llwybr Troed," 1943.. (3) JOHN TUDOR JONES, g. 1903, ym Mhensarn, Amlwch. Cyd-awdur Gwaed Ifanc cyn-olygydd Y Ford Oron, a LlyfrauW Ford Oron, a phapurau newydd yn Llundain, Iràc, etc.; swyddog yng ngwasanaeth Ewropeaidd y B.B.C.