Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HELYNTION GLOWYR DINBYCH A FFLINT 1830-31 Gan EMLYN ROGERS III. Cefndir Daniel Owen TEIFL llawysgrifau Swyddfa Materion Cartref, papurau'r stadau, yn ogystal â gwasg y cyfnod, oleuni llachar ar weithrediadau gweithwyr, meistri, a byddigion Dinbych a Fflint yn 1830-31.. Yng nghylch y Waun, ychydig a bryderai tri swyddog yr Undeb, Richard Mason, John Williams, a Thomas Richards, er bod Brawdlys Amwythig gerllaw credent, fel y dengys Uawysgrifau'r Castell, y caent eu rhyddhau. Dynion o gymeriad dilychwin oeddynt, ac ar sail hynny aeth dau ẃr amlwg, sef W. Myddelton-Biddulph, sgweier Castell y Waun, a William Owen, Woodhouse, yn feichiafon drostynt, gan eu rhwymo eu hunain i symiau helaeth os nad ymddangosai'r.tri glowr gerbron y Uys. Difyr odiaeth ydyw'r stori a ddadlennir yn llythyr William Owen (Mawrth 9), Ue y dywaid iddo gael gwys i fod ar yr Uchel Reithwyr, ond y byddai yng Ngwesty'r Talbot, yn yr Amwythig, am naw o'r gloch fore'r treial, i ymgynghori a gwneud popeth a allai i helpu'r tri Undebwr, os deuent i'w gyfarfod yno. Nid oedd gŵr y Castell chwaith yn llai brwdfrydig; gofalai yntau, os byddai angen, am gyfreithwyr i'w hamddiffyn, ond doeth, meddai, fyddai sicrhau dynion o bwys i dystio i gymeriadau'r tri. Ni adawodd William Owen garreg heb ei throi; ymwelodd â T. Kenyon, y Lord Lieutenant, a ddaliodd y tri yn ffrwgwd Pont y Waun, gan bwyso arno atal y treial, ond er y cydymdeimlai hwnnw i fesur â dymuniad William Owen, yr oedd yn anorfod i'r tri sefyll eu prawf. Cefnogodd Myddelton-Biddulph "y coliers truain" yn llwyr nid oedd blewyn ar ei dafod, ac er ei geryddu gan ynadon Croesoswallt dywedodd yn ddifloesgni nad ar y glowyr, ond yn hytrach ar yr awdurdodau, y gorweddai'r bai am helynt y Bont. Dyna ei decided opinion." Ond pwysodd Arglwydd Melbourne am gosbi, a mynegwyd hyn yn llythyr J. M. PhiUippSj Is-Ysgrifennydd Swyddfa Materion Cartref, at Kenyon. Y mae ei Arglwyddiaeth o'r farn," meddai, mai peth priodol ac angen- rheidiol fydd erlyn y troseddwyr a gymerwyd i'r ddalfa ar ôl darllen Deddf Terfysg, a pheth neilltuol o bwysig fydd gwneuthur barn gyfiawn â'r person a fu'n euog o weinyddu llwon anghyfreithlon." Ond yr oedd y gŵr hwnnw, Sampson Jones, y tyngwr o Frymbo, eisoes wedi diflannu, ac nid oes mwy sÔn amdano. Ymddangosodd y tri Undebwr gerbron y Barnwr Bosanquet, a chawn fesur llwyddiant Myddelton-Biddulph a William Owen yn canfasio— nid oedd yr erlynwyr am gosbi; pledient â'r Barnwr nad aent ymlaen â'r cyhuddiad, ac wedi siarsio'r carcharorion, a'u rhwymo am ddwy flynedd i ymddwyn yn heddychlon, fe'u rhyddhawyd. Felly y gwireddwyd geiriau WiUiam Owen Ni chânt ddim ond eu galw ymlaen i'w ceryddu, a'u gollwng,