Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"O.M." Gan H. FRANCIS JONES O.M. a Memoir, edited by Sir Alfred T. Daẁea. Hughes a'i Fab. Pris 8/6 OND tua diwedd y ganrif, yng nghyflawnder yr amser, cynhyrchodd Cymru ẃr o wir athrylith, yr hwn oedd hefyd yn athro, a'i gariad at yr iaith yn fflam dân ysol. Y gŵr hwn ydoedd Owen Morgan Edwards (1858-1920), Cymrawd o Goleg Lincoln yn Rhydychen. Dechreuasai ym- ladd dros hawliau ei iaith hyd yn oed cyn ennill ohono ei radd, a pharhaodd i ymladd nes ei farw. Cychwynnodd ddau gylchgrawn newydd yn 1891 a 1892 er hyrwyddo ei amcan, ac efô a fu'n eu golygu trwy ei oes. Nid hir y bu cyn i'w ddoniau llenyddol, ei angerdd a'i welediad eang, ennill serch yr holl genedl ac ymhen ychydig flynyddoedd wedi iddo ymafael â gwaith mawr ei fywyd, câi pwnc yr iaith sylw ymhob cwr o Gymru. Llwydd. odd Owen Edwards i ddeffroi rhywbeth yn ymwybod y genedlafuasaiynghwsg am ganrifoedd lawer. Y mae'n rhy gynnar eto hyd yn oed i fwrw amcan am faint ei ddylanwad. Galwyd ef gan lawer o bobl yn Gymro mwyaf y ganrif, ac y mae pawb yn unfarn parthed y dylanwad daionus a gafodd ei waith ar fywyd a llên Cymru.Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd (1927). Dyfyniad ydyw'r uchod o Adroddiad y Pwyllgor Ymchwil i Safle'r Gymraeg yng Nghyfundrefn Addysg Cymru. Fel y cofir, yr oedd rhai o Gymry mwyaf cyfrifol y cyfnod yn aelodau o'r Pwyllgor hwn-pobl o brofiad a barn, yn ymwneud â bron bob agwedd ar fywyd diwylliannol y genedl. Owen Edwards yn unig a allasai ennill oddi wrthynt y fath ddatganiad o edmygedd a phe rhoddasid i'r Uu tystion a fu gerbron y Pwyllgor gyfle i fynegi eu barn, nid oes amheuaeth nad rhywbeth yn debyg a fuasai eu tystiolaeth hwythau hefyd. Deil Cymru i ddisgwyl yn amyneddgar am gofiant cyflawn i Owen Edwards. Aeth saith mlynedd heibio er pan gyhoeddwyd y gyfrol gyntaf o'r cofiant awdurdodedig-un o gymwynasau mwyafgorchestol W. J. Gruffydd i'n llenyddiaeth fywgraffyddol, a hwyrach y darlun perffeithiaf o ddiwylliant gwledig y cyfnod a feddwn fel cenedl. A hyd nes dyfod o'r ail gyfrol o'r wasg, nid yn unig bydd un o'r penodau mwyaf rhamantus yn hanes O.M. ei hun heb ei chyhoeddi, eithr bydd hefyd bennod bwysig yn hanes datblygiad Addysg Cymru yn aros yn anorffenedig, a mwy nag un dirgelwch yn dal ynghudd. I Ond i aros am gwpláu'r cofiant awdurdodedig, rhaid diolch i Syr Alfred Davies am ei gyfraniad yntau ar y testun-" O.M. a Memoir, a gyhoedd- wyd yr un adeg ag y dadorchuddiwyd y darlun olew ohono yn Neuadd Goffa Ceiriog. Syr Alfred a drefnodd y gronfa i sicrhau'r darlun, ac efô hefyd a ofalodd am y gyfrol goffa. Medd ar gymhwyster arbennig i adolygu gwaith O.M." yn ei berthynas â'r Bwrdd Canol. Am bedair blynedd ar ddeg, bu'r ddau'n cydweithio yn Adran Gymreig y Bwrdd Addysg, y naill fel Prif Arolygydd a'r UaU fel Ysgrifennydd; ac yn Adroddiad y Pwyllgor Adran- nol, y dyfynnwyd ohono uchod, cysylltir enw Syr Alfred mewn modd ar- bennig "ag ymdrechion dibaid Owen Edwards i greu syniad uwch am