Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ASTUDIO HANES PLWYF Gan BOB OWEN III RHODDAIS yn y ddwy bennod o'r blaen fras-amcan ar y fel a'r sut i gael cipolwg ar fore hanes plwyf, yng nghyfhodau'r daearegwr astudwyr hiliogaeth a chenedl; a hynafiaethwyr-pobl y mae'n rhaid iddynt wrth y morthwyl, y cŷn a'r ebill, y llinyn mesur a'r chwyddwydr, a llawer erfyn eraill fel y rheini. Ond dylid mynegi hefyd nad yw cyfnodau'r bobl uchod bob amser yn cael eu cyfyngu i'r cyfnodau cyn-hanesiol, fel y gelwir hwynt. Bellach, gadawn y cyfnodau cynnar, a mynd heibio i gyfnod y Rhuf- einiaid, nes dyfod at gyfnod y Gwyddelod-cyfnod y cutiau crynion a welir yn britho ein bryniau a'n mynyddoedd. Cyfnod yw hwn heb ei lawn groniclo gan hynafiaethwyr, ac nid ydynt yn gytûn iawn â'i gilydd yn ei hanes, ac nid peth i synnu ato ydyw hynny, oherwydd esgeuluswyd hyd yn gymharol ddiweddar fwrw golwg arno. Ni chwiliwyd yn drylwyr yr ugeiniau cutiau sydd mewn degau o blwyfi hyd lannau'r moroedd. Cafwyd hwyl ac afiaith wrth sôn am gyfnod y Rhufeiniaid, ond y nesaf peth i ddim am y 'cyfnod sydd yn ei ddilyn. Ni thrafferthwyd i gloddio yn yr ystyr wyddonol i'r cutiau crynion, ac nid oes amheuaeth bellach nad oedd y bobl a drigai yn- ddynt ar y dechrau wedi byw hefyd yng nghyfnod diweddar y Rhufeiniaid. Rhaid cael gwybod beth oedd dylanwad Rhufain ar bobl y cutiau. Pobl yn byw, gan mwyaf, o oddeutu 450 hyd 650 oedd y Gwyddelod, ac y mae eu preswylfeydd wedi eu lleoli ar lecynnau rhwng 300 troedfedd a rhyw 1,200 neu 1,400 troedfedd uwchlaw wyneb y môr. Ond odid na cheir gweld, wrth lygadu yn graff, ddatblygiadau amaethyddiaeth gynnar yn y llecynnau lle ceir clystyrau o'r cutiau hyn, olion dechrau aredig y tir, cloddio, codi gwaliau, codi corlannau, eu dull o falu ýd, etc. Cafwyd hyd i lawer Cwem ymysg olion y cyfnod hwn. Ceir bod hyd yn oed enwau lleoedd yn awgrymu inni yr oes y bodolent, enwau megis Muriau Gwyddyl, yn Llan- decwyn Coed y Gwyddyl, yn Ffestiniog, a hefyd ym Meddgelert; Ffynnon Gwyddyl, ac Ynys y Gwyddyl, yn Llanfrothen Gwyddelwern, ger Corwen; Gwyddelfynydd yn Nhowyn Meirionnydd a Mynydd Gwyddel yn Aber- daron. Os astudiwn y Mapiau Degymau a luniwyd o gylch 1839, cawn enwau pob ty, cae, ffridd, gardd a gwinllan ymhob plwyf yng Nghymru ynddynt. Odid fawr na chedwir copïau o rai ohonynt yng nghist yr Eglwys Blwyf, ac os methir yno, fe geir hyd iddynt yn y Brif Swyddfa yn Wrecsam. Nid yn unig y mae enwau lleoedd a geir yn y mapiau hyn yn cynnwys enwau cyfnod y Gwyddelod, ond hefyd bob cyfnod o ddyddiau'r Rhufein- iaid, a rhai enwau o gyfnodau cynharach. Ceir enwau fel Caerau, Tan-y.gaer, Pen-y-gaer, Caereinion, Caergái, sydd yn awgrymu ar eu hunion fod yno olion hynafol o ryw fath o'u cwmpas, megis y profwyd yn ddigamsyniol, drwy ddamwain megis, pan ledwyd y ffordd fawr ger Caerau, Pant Glas- lle y canfuwyd hen bentref Gwyddelig enfawr. Nid yw syrfaewyr y Llywodraeth wedi manylu nemawr ddim ar y cutiau crynion yn eu lUapiau-felly rhaid i bob astudiwr hanes plwyf bererindota