Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT YR AELODAU Gan C. E. THOMAS Annwyl Gyd.Fyfyrwyr-Yr wyf yn sicr eich bod yn teimlo'n falch, fel yr wyf innau, fod gennym erbyn hyn ein cylchgrawn ein hunain. Ynddo cawn drafod ein materion ein hunain, a phroblemau addysg ein gwlad a'n cyfnod. Bu ein dosbarthiadau eleni yn niferus a llwyddiannus. Rhan o'r gwaith yn unig ydyw trefnu dosbarthiadau; y mae inni waith arall pwysig iawn, gwaith sydd yn sylfaenol os ydym am weld addysg yn cael ei Ie priodol a theilwng yn ein bywyd cymdeithasol. Nid yw r dosbarthiadau ond megis y blodeuyn neu'r ffrwyth sy'n tyfu ar gainc iach o bren cadarn ni ddaethant yno ohonynt eu hunain. Y mae'r blodau a'r ffrwythau yn iach am fod y canghennau a'r cyff yn dyfiant iachus, ac yn tyfu mewn tir toreithiog. Felly gyda ein dosbarthiadau. Ein gwaith sylfaenol ni fel Mudiad Addysg ydyw bywhau a dyfnhau argyhoeddiad ein cyd-drefwyr a'n cymdogion mai addysg yw un o'r pethau pwysicaf mewn bywyd heddiw, ac yn arbennig felly Addysg Pobl mewn Oed. Heb yr argyhoeddiad hwn, a'r ymdeimlad dwys o'r angen, nid ydym ond megis symbal yn tincian. Yr argyhoeddiad hwn yn y rhai a'n blaenorodd a ffrwythlonodd y tir fel y gallai mudiad addysg fel y W.E.A. wreiddio'n ddwfn, a blaguro mor llwyddiannus, yn ystod yr ugain mlynedd diweddar. Ein dyletswydd ni heddiw felly yw, nid yn unig fwynhau ffrwyth llafur yr arloeswyr, ond hefyd parhau i ffrwythloni'r tir drwy weithio i greu barn gyhoeddus iach ac effro ynghylch addysg. Os gwnawn hyn yn drwyadl, yna fe ddaw'r dosbarthiadau a'r Darlithoedd Arbennig a r Ysgolion Undydd yn rhwydd. Ni ddaw r pethau hyn os oes amheuaeth ym meddwl pobl am werth addysg. Dyma swydd y Canghennau, sef ymlid ymaith "ddrain ac ysgall mall amheuon am wir werth addysg i feibion a merched dynion. A chyda llaw, carwn eich argymell i ail-ddarllen yn ddifrifol Nodiadau'r Golygydd yn Rhifyn Gaeaf 1946 o LLEUFER (Cyf. II. Rhif 4). Os ydym yn caru addysg a goleuni, ac yn mwynhau ein dosbarth wyth- nosol, oni ddylem deimlo awydd i hyrwyddo r gwaith ? Gallwn wneud hynny drwy ymuno â'r gangen leol, a'i gwneud yn ganolfan gweithgarwch dros addysg a diwylliant y fro. Fel y dywedodd Silyn, "Fe ddylai Cang- hennau'r W.E.A. fod yn ganolfannau goleuni, a'r Pwyllgorau ddyfod yn Bwyllgorau gwirfoddol Addysg y Gweithwyr yn y cylch." Dyna gyfrinach llwyddiant y W.E.A. yng Ngogledd Cymru. Y myfyrwyr drwy'r Cang. hennau a chydweithrediad eu hathrawon sydd wedi ei adeiladu, am fod ganddynt ffydd yng ngwerth hanfodol addysg. Ysgoloriaethau i Ysgolion Haf Rhoddir rhai bob blwyddyn gan yr Undebau Llafur i'w haelodau yn y dosbarthiadau. Y mae gan y Coleg rai i aelodau o ddosbarthiadau'r Cyd-Bwyllgor (Joint Committee), ac y mae gan y W.E.A. rai i'w aelodau. Os oes arnoch eisiau manylion yngíŷn â hwynt, anfonwch air ataf i'r Swyddfa. Dyma gyhoeddiad pwysig. Fe gynhelir ein Cyfarfod Blynyddol ar y pedwerydd Dydd Sadwrn ym mis Mehefin, yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Yn y Cyfarfod Aduno yn y prynhawn, disgwylir o leiaf 500 i 1,000 o fyfyrwyr Dosbarthiadau'r Cyd-Bwyllgor a'r W.E.A. Dyma Ddiwrnod Sasiwn Mudiad Addysg y Werin.