Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AR BEN CARMEL Gan O. ALON JONES AR yrfa igam-ogam dyn a'i dylwyth ar draws y canrifoedd, o wyll ei foreddydd pell hyd heddiw, prin y cafodd ar wyneb daear yn unman ardal i dario ynddi hafal i ardal Carmel. Y fro deg hon a welodd Macsen Wledig yn ei freuddwyd rhyfedd, ei mynyddoedd a'i bryniau, ei thir garw a'i choed, na welsai eu tebyg erioed, ac onid ar odreon y fro hon y chwaraewyd rhamant hudolus Math a Gwydion ap Don, ac erys eu henw o hyd ar y ffermydd a'r tyddynnod yn etifeddiaeth anfarwol o'r hen orffennol pell. Saif y pentre ar lechwedd tawel Mynydd y Cilgwyn, uwchlaw y môr a'i donnau aflonydd ym Mae Caernarfon. Tu ôl y mae rhes gadarn Mynyddoedd Eryri, fel gwarchodlu digymrodedd. Un o droed-fryniau Eryri ydyw'r Cil- gwyn, ac ar y d-wr yn unionsyth o'i flaen y mae bryncyn bychan Dinas Dinlle, hen gaer gwareiddiad angofiedig ein plentyndod pell. Rhwng Dinlle a llethrau'r Cilgwyn y mae rhamant stori dyn ar hyd yr oesoedd yn agored a darllenadwy i bawb a garo sefyll ac edrych mymryn o'i gwmpas. Gwelodd O.M. hi pan oedd ar ei daith, fel y gwelir yn ei ysgrif, 0 Ddinas Dinlle i Ben Carmel," a gyhoeddwyd yn y gyfrol ddiddan, Yn y Wlad. Prin, efallai, yw'n gwybodaeth am Ddinlle heddiw, a rhyfel anghymodlon sydd rhwng yr hen gaer a'r môr ers oesoedd bellach. Yn nydd ei gogoniant priodolid hi yn breswylfa addolwyr yr haul, ac yn rhyw fath o Gaersalem i offeiriadaeth y grefydd oleuedig honno. Heddiw, heb fod nepell oddi wrthi ar lan y dwr, y mae Gorsaf Llandwrog, y lIe y gwelwyd cannoedd o ieuengwyr ein hoes ni yn esgyn ohono yn ystod y rhyfel diweddar, yn llawer nes i'r haul, beth bynnag, na'r hen offeiriaid a fu. Yma y mae cofadail uchafbwynt meddwl marwolion y cynfyd a modemiaeth anturus ein dyddiau ni yn gyfochrog. Wrth godi tua'r mynyddoedd, gwelwn dŵr Eglwys Twrog yn gofadail i hen saint a sylfaenwyr ein crefydd heddiw. O amgylch yr eglwys y mae'r pentref bach prydferthaf a thawelaf yn Arfon, sef Llandwrog, enwog am ei arddwyr celfydd a'i werin ddiymhongar. Ar gwr y pentre y mae GlynUifon, cartre'r Glyniaid, a chwaraeodd eu rhan yn hanes Cymru a Lloegr yn nyddiau'r Tuduriaid, ac ar adegau cyffrous eraill, fel y gwelir eu hanes yn ysgrifau manwl W. Gilbert Williams. Maenor fawr ffewdaliaeth yr oesoedd du, a'r werin heb fod fawr gwell nag eiddo, fel y tir. Wrth godi i'r mynydd gwelir olion y deffro, a brithir y fro yn awr gan dyddynnod y dynion rhydd ac addoldai'r Ymneilltuwyr, ysgolion a phen- trefi, diwydiant a masnach, a phrysurdeb yr oes. Y mae'r rheilffordd fel terfyn yn rhedeg ar draws, gan wahanu traddodiad y glyn a thraddodiad y mynydd. Yma deuwn i fysg y chwarelwyr, a gwelir cip ar Domen y Cilgwyn yn dangos ei deupen ar y mynydd, o boptu i bentre Carmel. O hen frwydr cau'r comin yn y mân dyddynnod, deuwn wyneb yn wyneb â'r Chwyl- dro Diwydiannol yn nhomen y chwarel, a thrwy'r cwbl, o amaethyddiaeth dawel y gwastadeddau hyd at fwstwr y chwarel, rhed tyfiant meddwl gwerin