Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Y Bluen Aur, Comedi Dair Act, gan Emrys R. Jones. Pris 2/6. Melltith yr Hafod, gan Siôn Germin. Llyfrau Pawb. Pris 1/3. Dirgelwch y Ffilm, ganJ. T. Jones. Pris 3/6. Gwasg Gee bob un. Comedi ydyw'r llyfr cyntaf, yn ceisio portreadu sefyllfa a all fod yn wir mewn llawer man yng Nghymru heddiw-sef brwydr rhwng traddodiadau gorau Cymru ac elfennau salaf y dylanwadau Seisnig-y sinema a'r clybiau yfed. Cais estron-berchennog sinema leol brynu hen ffermdy, gyda'r bwriad i'w droi yn westy, ond daw Morfudd, merch y ffarm, i'r adwy, a'i droi'n dy bwyta Cymreig, o dan yr arwydd Y Bluen Aur.' Pur siomedig yw rhediad y ddrama, gan fod y cymeriadau'n colli mewn naturioldeb dialog ac ymddygiad. Teimlir eu bod wedi eu creu, nid i fyw ar y llwyfan, ond i barablu daliadau a syniadau'r awdur; cais dymheru areitheg sych â digwyddiadau sy'n peri chwerthin. Teimlaf mai offeryn yn llaw'r awdur i wthio ar y gynulleidfa areithiau gwleidyddol mewn diwyg drama ydyw hon. Stori gyffrous am hen blasty yn llawn o ysbrydion a phobl ddim yn gall" yw MeUtith yr Hafod. Ychydig cyn y Nadolig gelwir ar Beti Puw i fynd i'r Hafod i nyrsio hen wraig, ac fe'i caiff ei hunan mewn awyrgylch rhyfedd. Y mae rhyw drychineb ddiatal yn hofran uwchben Hafod y Barcud. Digwydd yno bethau cynhyrfus iawn, sydd yn ddigon i yrru iasau oer drwy'r darllenydd, fel y gwnaeth i'r nyrs ieuanc. Y mae gan yr awdur allu eithriadol i lunio storïau o'r math yma. Stori fyw a llawn dychymyg yw hon, ac yn dal ei gafael yn y darllenydd drwyddi. Datblygir y plot mewn ffordd hwylus, ac fe syrth y cymeriadau i'w Ue yn daclus yn y cynllun. Odid nad yw'r awdur yn tueddu i grynhoi'r digwydd- iadau a gor-bentyrru'r iasau mewn stori mor fyr. Er hynny, y mae'n hynod o ddiddorol a difyrrus, a'r Gymraeg yn ystwyth a llithrig. Trosiad Cymraeg ydyw Dirgelwch y Ffilm o'r stori Saesneg, The RoU Film Myatery. Dywaid y cyfieithydd yn ei ragair mai ei amcan oedd cael stori ddetectif, neu stori ddirgelwch, gyfaddas i blant rhwng deg a phymtheg oed. Fel y gwyr y rhan fwyaf o athrawon, y mae prinder llyfrau o'r math yma yn Gymraeg, a gorfydd i'r plant droi at stôr ddihysbydd llenyddiaeth Saesneg. Ar y cyfan, y mae'r trosiad i'r Gymraeg yn y llyfr hwn yn syml a di- ymdrech, ac ni chollodd y stori ddim o'i diddordeb yn ei diwyg Gymreig. Hanes anturiaethau Nansi Llwyd a Jac Herbert yn Llundain ydyw-Nansi wedi mynd i'r brifddinas i dreulio'i gwyliau, a chael ei hyrddio ar unwaith i ganol digwyddiadau cyffrous iawn. Yn ddiddadl, y mae J. T. Jones wedi cyrraedd ei amcan o ddarparu ar gyfer plant o'r oed hwn. Nid oes ynof ddim amheuaeth na chânt flas ar y stori o'i dechrau i'r diwedd-anodd fydd i neb a gydio ynddi ei rhoddi o'i law cyn gorffen ei darllen. MARGARET FON ROBERTS