Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crefydd yng Nghymru, gan y Parch. J. H. Griffith. Cyfres Pobun. Gwasg Y Brython. Pris 2/ Nid gwaith hawdd i bregethwr ydyw cyfansoddi pregeth ar destun a roddir iddo gan un arall, ac nid yw rhoddi pennau gyda'r testun yn ysgafnhau dim ar y gorchwyl. Yr un mor anodd, mi gredaf, ydyw ysgrifennu llyfr o dan yr un amodau, ond er hynny fe lwyddodd y Parch. J. H. Grinith i gyn- hyrchu llyfr gwir feistrolgar ar y testun, Crefydd yng Nghymru. Disgwylid ymdriniaeth amo o dri safbwynt-Doe, Heddiw, ac Yfory-a olygai fod yr awdur i fod yn Hanesydd, Gweledydd, a Phroffwyd. Wrth ymdrin â Chrefydd Cymru Ddoe, fe'i dengys yr awdur ei hun yn hanesydd manwl a chywir, ond nid diragfarn bob amser. Ceir ganddo gipolwg ar hanes ein crefydd o ddechrau Cristionogaeth hyd ddiwedd y ganrif ddiwaethaf. Dengys fel y ceisiodd y Ffydd newydd, yn y mynegiad cyfundrefnol ohoni, ennill ei lle mewn Cymdeithas. Brwydr ydoedd rhwng yr Eglwys a'r Wladwriaeth, ac am gyfnod maith nid oedd yr Eglwys yn ddim amgen na llawforwyn i'r Wladwriaeth. Cymrodeddu â'r Wladwriaeth fu ei hanes. Pan ddeffrôdd y gydwybod Brotestannaidd, a honno drachefn yn esgor ar y gydwybod Anghydffurfiol, fe'n cawn ein hunain yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chrefydd yn llawforwyn eto, ond nid i'r Wladwriaeth fel ar ddechrau'r ganrif, ond i gyfundrefnau enwadol. Cawn yr awdur, wrth symud i ymdrin â'r mater yng ngoleuni Heddiw, yn Weledydd clir. Gesyd y safle yn glir a chywir, ac fe haedda'i longyfarch am lwyredd yr adran hon. Dechreua Heddiw gyda Rhyfel 1914, cyfnod y Ddau Ryfel a'u hadwaith ar fywyd cymdeithas yn economaidd a chrefyddol. Rhydd yr awdur ddarlun brawychus o gyflwr Crefydd yng Nghymru heddiw. Gesyd y ffeithiau o'n blaen mewn modd na ellir eu hanwybyddu, ond er bod ei ffeithiau yn sicr, ni allaf dderbyn ei ddehongliad ohonynt bob tro. Tuedda'r rhagfam honno a'i nodwedda fel hanesydd i liwio ei ddarlun o bethau heddiw. (Gadawaf i'r darllenydd ganfod trosto'i hun natur y rhagfam). Wrth edrych i'r dyfodol, a gofyn, Beth am Grefydd Cymru Yfory ? fe welwn yr awdur fel Proffwyd. Nid yw ymysg y gau-broffwydi, oherwydd ni chais ddweud beth sydd yn mynd i ddigwydd, ond beth sydd yn rhaid iddo ddigwydd os yw Crefydd i aros o fewn ein tir. Rhaid i'r Eglwys gyhoeddi condemniad pendant ar Ryfel. Wedi methuynhyny mae'rEglwys ddwywaith dyna a'n harweiniodd i'r sefyllfa bresennol, ac ni wêl yr awdur unrhyw obaith am Grefydd y dyfodol os na all y gydwybod grefyddol ddiarddel rhyfel. Dyma Ie i drafodaeth. O'm rhan fy hun, teimlafmai nid yma y mae'r broblem. Nid trwy ddileu problemau cymdeithasol y mae'r deyrnas i ddyfod, ond yn nyfodiad y deyrnas y dileir y problemau. Felly, gyda chwestiwn rhyfel. Nid ydyw difodi rhyfel yn prysuro'r Deyrnas, ond fe ddileir rhyfel pan ddêl y Deyrnas. Y mae'r llyfr hwn yn chwanegiad teilwng at y gyfres, ac ni ddylai neb sydd yn aelod o ddosbarth W.E.A. fod hebddo, gan fod ei ymdriniaeth mor eang, ac yn llawn awgrymiadau. E. FFESTIN WILLIAMS