Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Creu Heddwch yn Bute Street, gyda Rhagymadrodd gan George M. Ll. Davies. Gwasg Jason, dros Phoenix. Pris 6ch. Os ydych yn gyfarwydd â Chaerdydd, chwi gofiwch yn bennaf am Barc Cathays a'i adeiladau cenedlaethol gwych, a'r Castell, a'r muriau heirdd a'r parciau helaeth a'r heolydd llydain, y cwbl yn deilwng o brifddinas cenedl. Ond gadewch y canolfan godidog hwn, a cherddwch yn syth i gyfeiriad y môr, ac fe ddowch at bont y gamlas. Croeswch hon, a byddwch ar drawiad mewn byd hollol wahanol-byd diddorol, er hynny, ardal y dociau. Dyma ochr ddu i olygfa gymdeithasol Caerdydd, dygn dlodi yn yr union fan lIe creir cyfoeth mawr y ddinas. Pont y gamlas ydyw hiniog Bute Street a "Tiger Bay," rhyw ynys o ardal hollol ar ei phen ei hun. Plant bach o bob lliw a llun, stwrllyd ac afreolus," mor ddiystyr ydynt o'r drafnidiaeth. Nid oes barc yn Tiger Bay benbwygilydd," ond ceir un lIe chwarae i'r plant, ac nid oes lecyn glas yn hwnnw." Ardal ydyw a gynlluniwyd gynt ar gyfer 3,500 0 bobl, ond yn awr ymwasga 6,000 i dai hen a gwael. Tlodi, anghyRogaeth-ac ar ben y cwbl puteindra, a phlant heb dad. Bute Street yw'r rhan fwyaf cyd-genedlaethol o Gaerdydd." Yno, cymysga pedair cenedl ar ddeg o leiaf â'i gilydd ac â'r bobl wynion." Dyna gipolwg, wrth ein dôr megis, ar rai o broblemau dyrys y byd heddiw-gwrthdrawiad safonau economaidd, gwrthdrawiad crefyddau a chredoau, ynghyda gwenwyn cymdeithasol rhyw a lliw a chenedl. Congl yng Nghymru ym mhrifddinas Cymru, a Iorwerth John ynghanol y gymysgfa yn ceisio Ueddfu'r boen a gyfyd ohoni. Ceisiwn ddeall y safle, ac os gallwn rhoddwn gynhorthwy iddo. Ceir hanes syml ei waith yn y pamffledyn bychan chwecheiniog hwn. Dyddiadur 1947. Undeb Cymru Fydd a Hughes a'i Fab, Caerdydd. Pris 2/6. Llyfryn bychan destlus a hylaw ydyw hwn. Ceir ynddo dudalennau eang eu maint--peth defnyddiol ar gyfer gwneud cofnodion-a threfniad anghyffredin ond hwylus o'r calendr, yn dangos y flwyddyn 1947, a hanner olaf y flwyddyn o'i blaen, a hanner cyntaf y flwyddyn a ddaw ar ei hôl. At hyn, rhoddir llawer o fanylion buddiol--enwau Aelodau Senedd, rhestr o brif sefydliadau Cymru ac enwau'r swyddogion, a'r un modd rhestrau o gymdeithasau a phwyllgorau a chlybiau, cyfnodolion Cymru, a'r prif gy- hoeddwyr, ynghyda chyfarwyddiadau'r post. MARY SILYN ROBERTS Muaic Handbook-Llawlyfr Cerddoriaethr-by W. S. Owynn WiUiams Gwynn Pubhshing Co. Pris 2/3. Dyma lawlyfr newydd a diddorol dros ben, sydd yn ymwneud ag El- fennau Cerddoriaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg, ac yn gosod egwyddorion sylfaenol y gelfyddyd mewn ffordd syml a hwylus yn y ddau Nodiant­ y Tonic Sol-ffa a'r Staff. Llawlyfr sydd yn llenwi bwlch yr oedd llwyr angen am ei lenwi, ac y mae'n llawlyfr anhepgorol i'r neb a fynno ddeall egwydd. orion y ddau nodiant fel ei gilydd. Yn ei Ragair i'r llyfr, dywaid yr awdur:- Credir mai'r math hwn ar lawlyfr cerddoriaeth sydd eisiau heddiw i feithrin diddordeb o'r newydd mewn darllen ac ysgrifennu Cerddoriaeth ymhlith yr ieuainc sydd heb lwyr feistroli'r pwnc." Gwir bob gair. I'r rhai sydd yn gyfrifol am ddysgu Cerddoriaeth yn Aelwydydd yr Urdd, a dosbarthiadau cerddorol Eglwysi Cymru, bydd yn hwylus a derbyniol iawn. HEDD ALAW