Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWYDDOR A DIWYLLIANT Gan EDWIN A. OWEN (Rhan o anerchiad a draddodwyd o'r gadair i Gynhadledd Hanner- Blwyddyn Rhanbarth Gogledd Cymru o'r W.E.A., yng Nghaernarfon, Ionawr 25, 1947). Y MAE'N dda gennyf ddeall bod y canghennau'n dyfod yn fwy a mwy hunan-lywodraethol, ac y mae eisiau cefnogi'r duedd hon. Y canghen- nau eu hunain a ddylai gymryd y blaen, a bydd hyn yn gyfnerthiad mawr i'r mudiad trwyddo draw. Ond wrth ddatblygu'r canghennau, rhaid inni ofalu eu bod yn datblygu'n gytbwys, B'ùm' yn edrych drwy'r Adroddiad am y llynedd, a daeth un ffaith i'r amlwg yn glir, sef mai cyfartaledd bychan iawn o ddosbarthiadau gwyddor syddyny rhestr-pum dosbarth gwyddor mewn cyfanswm o 188 o ddosbarthiadau. Y mae'n debyg mai prinder athrawon cymwys i ddysgú' dosbarthiadau gwyddor ydyw'r prif reswm am hyn efallai hefyd fod ofn i wyddor ddyfod yn bwnc rhy dechnegol, ac oherwydd hynny na fyddai'n bwnc cyfaddas i fod yn rhan o faes llafur dosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr. Diamau fod yr anhawster cyntaf, prinder athrawon, yn un sylweddol, ond y mae'n amheus gennyf a oes lawer o rym yn yr ail wrthwynebiad. Credaf fod y gwyddorau a'r dull gwyddorus o feddwl yn wertheu hastudio erjeù mwyn eu hunain, ác y ceid llawer o fudd o ymwneud â hwy yn eu hagweddâu cyffredinol. Nid oes angen o gwbl am drin y pwnc yn ei agweddau technegol. Yn wir, peth tra anfuddiol fyddai ceisio gwneud hynny heb gael sylfaen briodol i adeiladu arni. Nid oes angen dealltwriaeth dechnegol o'r gwyddorau gellir cael gwybodaeth eang ohonynt ac o'u hegwyddorion hebddi. Cymerwn ychydig enghreifftiau ar antur. Tybiwch ein bod yn gwneud astudiaeth o fywyd a gwaith rhai o wyddorwyr mawr y byd. Bydd hanes bywyd rhai o'r dynion hyn yn darllen fel rhamant, a byddai'n anodd gennyf gredu y gallai'r diddordeb ddiffygio wrth ddilyn eu hynt a'u gorchestion. Gyda chymorth athro profiadol a chanddo weledigaeth ar ei bwnc, galìai'r dosbarth ddilyn a deall y dulliau a ddefnyddiodd y meddylwyr mawr hyn i geisio datrys y problemau a'u hwynebai. Gellid cysylltu darganfyddiadau mawr gwyddor felly â hanes y gwyr a'u darganfu. Gellid gwneud astudiaeth eto o alluoedd natur a'r modd y defnyddir hwynt. Cymryd rhai o ffenomenau natur, ac yna chwilio am eglurhad arnynt a fyddai'n ddealladwy i bobl heb lawer o wybodaeth am wyddor yri ystyr fanylaf y gair. Dyma rai pynciau eraill a ddaw i'm meddwl—cydbwysedd gallu yn y byd -materol, neu ryfeddodau pensaernîaeth yn y byd hwnnw. A dyf od yn nes at ein bywyd ni ein hunain, béth a allai fod yn fwy diddorol ac addysgiadol na chwrs o ddarlithiau ar ryfeddodau peirianwaith y corff dynol ? Cymerwn olwg ehangach ar bethau, a gellid ystyried symudiadau'r planedau a'r sêr eraill feI rhagarweiniad i astudiaeth Iwyrach o'r syniadau diweddar ym myd seryddiaeth. Symudwn drachefn oddi wrth y pethau anhraethol fawr at у pethau anhraethol fychan, a gellid cael cwrs о ddar- lithiau buddiol iawn ar fyd yr atom, a chyfansoddiad mater. Nid wyf ond