Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HEN LENYDDIAETH WYDDELEG Gan A. O. H. JARMAN The Cycles of the Kings, by Myles Dillon. Pris 10/6 net. The Gaelic Story-Teller, by J. H. Delargy. Pris 6/- netL Y ddau gan Wasg Prifysgol Rhydychen a Geoffrey Cumberlege. y MAE'N ddiamau mai afraid yw dweud wrth ddarllenwyr LLEUFER fod cyswllt a pherthynas agos rhwng llenyddieath Cymru yn y Canol Oesoedd a llenyddiaeth Iwerddon yn yr un cyfnod. Wedi hynny aeth y ddwy wlad yn ddieithr i'w gilydd, yn eu bywyd ac yn eu llenyddiaeth, a bu eu datblygiad yn dra gwahanol. Tan bwysau llethol y goncwest Seisnig a'i chanlyniadau cymdeithasol, nychodd y diwylliant brodorol Gwyddeleg, a phan enciliodd yr iaith yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg .darfu i bob pwrpas yn llwyr am bob gweithgarwch llenyddol ynddi. Ysgubwyd gweddillion olaf ei gogon- iannau ymaith gan y newyn mawr yng nghanol y ganrif, ac yng ngeiriau Douglas Hyde, "bu farw hen fywyd llenyddoi Iwerddon ynghanol erchyll- terau newyn, twymyn ac ymfudo." Ni bu'r iaith farw ymhobman, canys parheir hyd heddiw i'w siarad ar arfordiroedd ac ynysoedd y Gorllewin. Ond trwy'r rhan helaethaf o diriogaeth Iwerddon heddiw, yn yr ysgolion, a'r colegau a'r cylchoedd llywodraethol, yr hyn a welir yw nid yn gymaint ymdrech i ail-orseddu iaith a ddarostyngwyd (yr hyn ynddo'i hun a fyddai'n orchwyl cymharpl hawdd), ond brwydr ddwys i ail-sefydlu iaith a ddiflan- nodd o leferydd y trigolion. A phan siaredir Gwyddeleg. heddiw gan arwein- wyr bywyd a diwylliant Iwerddon, o Mr. De Valera i lawr, siaradant iaith.a ddysgasant, nid oddi ar wefusau rhieni 'a chymdogion^ ond gan athrawon, trwy lyfrau ac mewn dosbarthiadau. Bu effeithiau'r goncwest Seisnig ar Gymru yn ddreng. ac yn enbydus, yn y pen draw, ar y Gymraeg a'i:llenyddiaeth hefyd. Ond am resymau nad oes ofod i'w holrhain yma cafodd llenyddiaeth Gymraeg adfywiad a omedd- wyd i lenyddiaeth Wyddeleg. Cyfieithwyd y Beibl i Gymraeg ysblennydd yn 1588, a chodwyd yn y cyfnod hwnnw ysgol o awduron rhyddiaith meistraidd a osododd sylfaen i'n llenyddiaeth ddiweddar. Yna, adferwyd hoywder barddoniaeth Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif gan Williams Pantycelyn a Goronwy Owen a'u cymheiriaid. Trwy hynny diogelwyd parhad di-fwlch cyfran, 0 leiaf, o'r traddodiad llenyddol Cymraeg. Eithr oni bai i Lewis Morris annog Gronwy Owen i afael yn yr hen gelfyddỳd, medd Syr John Morris-Jones, y mae'n amheus a wybyddai nemor un fawr amdani erbyn heddiw (Cerdd, Dafod, t, 138). Ni chafodd llenyddiaeth Iwerddon unrhyw gyfle mewn, canrifoedd diweddar i ddiogelu. parhad di-fwlch ei thraddodiad. Yr oedd Dulyn yn y ddeunawfed ganrif yn ganolfan i: bendefigaeth o dras Gwyddelig eithr, a siaradai Saesneg ac a gynhaüai senedd yn yr iaith honno. Yr oedd hyd yn oed arweinydd cenedlaethol y Gwyddyl yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Daniel O'Connell, yn elyniaethus i'r iaith Wyddeleg am nad oedd ya. gymorth i ddyfod ymlaen yn y byd." Ac nid oedd problem yr iaith yn oyffwrdd â gorwelion meddwl arweinydd ail hanner y ganrif-,