Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

i rai nad ydynt yn arbenigwyr mewn llenyddiaeth Wyddeleg eithr sy'n dymuno gwybod beth yw defnydd yr hen chwedlau. Fe sylwa'r ysgolhaig Cymraeg hefyd ar amI bwynt sy'n dwyn cysylltiad â llenyddiaeth Gymraeg, megis peri i Labraid Loingseach fwyta ac yfed calon a gwaed ei dad a'i daid (t. 7—ceir digwyddiad tebyg yn chwedl Kulhwch ac Olwen *) y pen yn canu er ei dorri ymaith oddi wrthy corff (t. 101—cymhara'r Athro Dülon ef â phen Bendigeidfran ym Mabinogi Branwen) y chwedl am losgi'r tŷ haearn (t. 4) sy'n digwydd eto ym Mabinogi Branwen hanes Suibne Geilt (t. 68), sef y ffurf Wyddeleg ar chwedl Myrddin yn Gymraeg a'r darn o fydryddiaeth ddaroganol Baile in Scáil (t. 11) y gellir ei gymharu â Chyfoesi Myrddin a Gwenddydd yn Llyfr Coch Hergest. Wedi sgrifennu'r nodiadau uchod, derbyniais gopi o The Gaelic Story- Teüer, with Some Notea on Gaelic Folk-Tales, gan J. H. Delargy, sefDarlith Goffa Syr John Rhys, 1945. Ymdrinia'r ddarlith hon, nid â'r chwedlau ysg- rifenedig a grynhoir ac a ddisgrifir gan yr Athro Dillon, ond â'r chwedlau llafar y parhawyd i'w hadrodd ymhlith y werin hyd yr ugeinfed ganrif yn y rhannau hynny o Iwerddon a Sgotland lle deil yr ieithoedd Gwyddeleg a Gaeleg yn fyw. Y mae'r pwnc> hwn yn faes gwyryfol mewn efrydiau Uenyddol Celtaidd. Casglwyd cannoedd o enghreifftiau o chwedlau llafar Gwyddeleg gan ymchwilwyr diwyd yn y ganrif hon, ond hyd yn hyn ychydig ohonynt sydd wedi eu hargraffu. Y mae deunydd y chwedlau hyn yn ben ac yn gyntefig iawn, a deil Mr. Delargy fod traddodiad y chwedlau Uafar yìnhfith y wèrin wedi ffynnu er yr amseroedd cynnar ochr yn ochr â thra- ddodiad aristocrataidd a mwy llenyddol" y chwedlau a gofnodwyd yn y llawysgrifau. Cyfeiria'n fyr hefyd (t. 44-6) at rai elfennau sy'n gyffredin i'r chwedlau llafar Gwyddeleg a chwedlau Cymraeg, megis Kulhwch ac Olwen, Pedair Cainc y Mabinogi, a Hanes Talieain, a dywaid na wnaeth ysgolheigion Cymraeg hyd yn hyn ddefnydd digonol o'r ffynonellau gwerth- fawr sydd i'w cael mewn Gwyddeleg a Gaeleg. Ni ellid rhoddi teyrnged fwy," medd ef, "i goffadwriaeth Syr John Rhys na sefydlu Cadair Iaith a Llenyddiaeth Wyddeleg ym Mhrifysgol Cymru." Y MAE MWY NAG UN VII. WILLIAM JONES (1) WILLIAM JONES, g. 1888, yn Nantyglyn, ger Llanrwst. Clare Gyngor Sir Ddinbych Aelod o'r Bwrdd Ymgynghori Cymreig Ysgrifennydd Pwyll- gor y Siroedd Cymreig (Cynghorau Sir).. (2) WILLIAM JONES, g. 1896, yn y Felinheli. Clare Cyngor Sir Fôn; Ysgrifennydd Cyngor Datblygu Gogledd Cymru. (3) Y PARCH. WILLAM JONES, Tremadog, g. 1896, yn Nhrefriw. Awdur y gerdd, Y Llanc Ifanc o Lŷn, a chyfrol o farddoniaeth a gyhoeddir yn fuan. (3) WILLIAM JONES, g. 1907, yn Nebo, ger Llanrwst. Ffarmwr; awdur cyfrol o farddoniaeth, Rhigymau'r Pridd, a gyhoeddwyd eleni, ac a adólygir yn y rhifyn hwn aelod o Ddosbarth Nebo. Cywirer y cyfeiriad at chwedl Kulhwch ar t. 7, o WB. 218 b17 i WB. 248 bl7.