Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYNHADLEDD GYNTAF UNESCO Gan GWILYM DAVIES I. Beth sydd yn newydd yn Unesco ? YN ei Adroddiad o Ail Gynhadledd Cynghrair y Cenhedloedd yng Ngenefa — Oeneva 1921 "—dechreuodd H. Wilson Harris drwy gyferbynnu'r ddwy Gynhadledd gyntaf â'i gilydd. Cynrychi olai'r Gynhadledd gyritaf, meddai, greadigaeth," a'r ail, ddatblygiad." Rhywbeth na ddigwydd. asai erioed o'r blaen oedd y gyntaf edrychai'r aelodau ar ei gilydd â rhyw syndod dieithr yn eu Uygaid. Ond yn yr ail Gynhadledd, cyfarfyddent eil- waith fel hen gyfeillion a chydweithwyr. Tebyg i'r ail Gynhadledd hon ydoedd Cynhadledd gyntaf Unesco, a gynhaliwyd ym Mharis o Dachwedd 19 hyd Ragfyr 10 y llynedd. Cyfarfu llawer o'r cynrychiolwyr "fel hen gyfeillion a chydweithwyr." Buont yn cydweithio yn Llundain ar y Ddirprwyaeth Baratoi, a chyn hynny n y Gynhadledd yn Llundain yn Nhachwedd, 1945, pan luniwyd Cyfansoddiad Unesco. Ond yr oedd llawer o wynebau newyddion ym Mharis, a rhoddent i'r Gynhadledd rywfaint o awyrgylch ffres Cynhadledd gyntaf y Cynghrair. Teimlai Uawer ohonynt, y mae'n ddiamau, mai arloeswýr oeddynt yn cychwyn allan ar anturiaeth newydd. Yr oedd hyn yn wir, mewn ystyr, ac ôto nid oedd yn wir. Faint, tybed, o'r cannoedd o bobl eiddgar yn y Gynhadledd a oedd â rhyw syniad clir yn eu meddyliau am yr hyn y ceisiwyd ei wneud, yn у cyfnpd rhwng y ddau ryfel, ymhob congl bron o faes gweinidogaeth Unescö ? Y mae'n wir y gellid dadlau nad oedd dim newydd iawn yn rhaglen Unesco—ynglŷn ag addysg, diwylliant a'r celfyddydau, llyfrgelloedd ac amgueddfeydd, a chyfryngau i gyrraedd y Uiaws fel.y radio a'r sinema. Yr oedd bron bopeth a ddywedwyd ym Mharis* ar bob math o bynciau wedi eu dweud o'r blaen yn nhrafodaethau'r Pwyllgor Cydwladol ar Bethau'r Meddwl, y Pwyllgor y bu'r hynafgwr, Dr. Gilbert Murray, yn gadeirydd mor rhagorol iddo am un mlynedd ar ddeg. Yr oedd llawer o'r gorchwylion y cynigiai eu gwneuthur wedi eu cynnig eisoes gan y Sefydliad ar Bethau'r Meddwl ym Mharis, neu gan Swyddfa Gydwladol Addysg yng Ngenefa. Gosodwyd cryn lawer o bwys gan rai pobl ar roddi'r "S" yn y gair Unesco, ac ar y Ue amlwg a roddir yn awr i Science (Gwyddor). Qnd nid yw hyn yn beth newydd 0 gwbL Ar wahân i'r Cyfarwyddwr, JuUan Huxley, y mae gan Wyddor lai o gynrychiolaeth ar Gorff Llywodraethol Unesco (18 o aelodau) nag a oedd ganddo ar y PwyUgor Cydwladol ar Bethau'r Moddwl ( 12 o aelodau). Yr oedd chwech o'r deuddeg hyn yn cynrychioU'r Gwyddorau, ac yn eu plith Madame Curie, darganfyddwr radiwm, a'r Athro Einstein. Beth sydd yn newýdd yn Unesco, ynteu ? Tri o bethau yn arbennig, hyd y gwelaf i :—