Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SENS O HIWMOR Gan D. T. EATON "NA, mae'n hen bryd i bethau ddod yn well ao i ddynion gael syniad clir am werthoedd bywyd. Mae digon o bregethu wedi bod ar y Uwyfan ac yn y wasg i'r mwyafrif o'r werin gael rhyw syniad am y pethau sy'n cyfrif mewn bywyd. Nid yw'r rhain yn newid gyda'r athrawiaethau newydd a gyhoeddir yn awr ac yn y man, ac y gosodir cymaint bri arnynt gan yr ysgol fodern. Ac imi gael dweud fy marn wrthyt, nid wyf i'n cyd-fynd â'r syniad a fynegodd yr Athro ba noson, yn Neuadd y Dref. Sôn am y demi-urge a'r life force,' a chau ei lygaid ar foesoldeb. Ffwlbri i gyd, weda i." Wedi gorffen siarad, pwysodd Ifan Rhydderch yn ôl yn y gadair freichiau. Gyferbyn ag ef eisteddai Glyn Huws, athro yn yr Ysgol Sir, gŵr a gafodd addysg uwchraddol. Graddiodd yn Rhydychen, a gorffennodd ei yrfa ym Mhrifysgol Leipzig yn yr Almaen. Gŵr dibriod oedd ef, a'i ddull o feddwl a byw yn cyhoeddi ei fod yn un o'r Bohemiaid. Disgybl i'r athroniaeth newydd nedd Glyn Huws, a chanddo feddwl craff a'i farn bob amser yn glir a phendant. Ni fuasai Ifan Rhydderch mor ffodus yn ei gyfleusterau addysg. Ni chafodd addysg fwy na honno a gyfrennid gan yr ysgol elfennol, er cymaint ei awydd am wybodaeth. Gorfu iddo fynd yn grwt ifanc i swyddfa'r gwaith glo cyfagos i chwanegu rhyw ychydig at gyllid ei deulu. Er hynny, man- teisiodd ar bob cyfle drwy fynychu'r dosbarthiadau nos, a darllen rhai o lyfrau safonol yr oes, i wrteithio'i feddwl. Cyfarfu Glyn Huws ag Ifan Rhydderch ryw noson yn Neuadd y Dref, pan oedd yr Athro Olifer Owens, M.A., yn darlithio ar Foeseg, a bu'r ddau'n gyfeillion mawr oddi ar hynny, er eu bod yn gwahaniaethu yn ddirfawr mewn barn. Un o'r pethau a ddywedodd y darlithydd oedd nad oedd a wnelai moesoldeb ddim â neges dyn. Yr oedd yn bosibl i ddyn dysgedig, er yn an- foesol, gyfleu neges ddyrchafol i'w oes, ac yr oedd Ifan yn methu'n lân â dygymod â'r syniad, a dyna fyrdwn y ddadl a oedd rhyngddynt. "Iti'n gweld, Glyn," chwanegai Ifan, os yw'r ffynnon yn glir, mae ei dyfroedd hi yn lân, ac yn llesoli pawb a fynno'i ddiodi, ond os bydd ei dyfroedd hi yn drwbí a lleidiog ni ddisycheda neb. Felly gyda bywyd. Y cymeriad glân a moesol yw'r gwir gyfrwng i'r neges ddyrchafol. Efe yw'r gweledydd gwir." Chwarddodd Glyn yn dawel a dywedodd "Ifan, iti'n rhy ddifrifol gyda'r pethau hyn. Мае dy feddwl mewn caethiwed i'r hen athrawiaethau, ac os oes cynnydd i fod rhaid i ddyn newid ei feddwl. Nid yw'r gair di- waethaf Wedi ei lefarü èto ar ddirgelion bywyd. A chred ti fi, Ifan, mae'n bosibl i'r dyn anfoesol gael gweledigaeth yn ogystal â'r dyn moesol. Trwy ffurfiau annisgwyl y datguddir gwirioneddau mawr bywyd, ac mi af gani ymheUach, a rhof heriti.fod mwy o ddynion a gyfrifir gan yr Eglwys yn an- foesol wedi UesoU èymdeithas a'u gweledigaethau na'r rhai a gyfrifir yn ddynion