Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn ei lle, fel y tybia ef, ac yn gofyn iddi ddewis rhyngddo ef a'r bardd ifanc. Pa un a oedd orau ganddi ? Credai ei fod wedi ei gosod mewn cornel. Ond, druan ohono, fe'i blingodd. Ni wybuasai erioed o'r blaen ei fod cyn lleied o ddyn. A'r ergyd syfrdanol yn niwedd ei haraith- I'll choose the lesser man,' ac er ei fawr syndod, ef ei hun oedd y leaaer man Nid oes wahaniaeth a ydyin yn leicio hynny ai peidio hyn yw'r ffaith— mae safonéfu moesoldeb wedi newid, a gorau i gyd po gyntaf y daw'r ddynoUaeth' i syl- weddoli hynny." Itha reit," meddai Ifan rwyf wedi dod i weld hynny 'nawr. Wrth ddefnyddio tipyn o sens o hiwmor fe ddaw pethau yn glir inni fel y dywedaist o'r blaen wrthyf, Glyn, sens o hiwmor yw'r gras achubol ym mywyd cym- deithas. Itha reit; itha reit." Rhyw fore, cyn cychwyn i'r swyddfa, hysbysodd Ifan ei briod.na fyddai gartref yr amser arferol y noson honno, gan fod y directora yn cwrdd, a byddai eisiau ei bresenoldeb yno. Ond wedi cyrraedd y swyddfa, galwyd ef i mewn i stafell yr arolygydd, a dywedodd hwnnw wrtho fod amser'y cyfarfod wedi ei newid. Cynhelid ef am bedwar y prynhawn yn lIe chwech yn yr hwyr. Golygai y byddai ryw awr yn hwyrach yn cyrraedd adref, yn lle teirawr, fel y trefnwyd gyntaf. Teimlodd nad oedd angen danfon neges i Enid, gan na fyddai'n gwneud llawer o wahaniaeth. Cyfarfu'r directors, a chyflawnodd yntau ei ran, er mawr foddhad i'r cwmni, a hysbyswyd iddo eu bod yn dra bodlon ar ei waith, ac er mwyn dangos eu gwerthfawrogiad, yr oeddynt wedi cytuno i godi ei gyflog. Tua saith o'r gloch, brysiodd adref â'r newydd da i'w briod, â llawenydd lond ei galon. Nid oedd neb yn y gegin fach pan gyrhaeddodd, ond ni flinodd am hynny. Tybiodd fod Enid, gan deimlo'r amser yn hir, wedi troi i mewn i ymweld â chyfeilles iddi a oedd yn byw gerllaw. Penderfynodd drwsio tipyn arno ei hun yn gyntaf, ac yna mynd i'w nôl. Aeth i fyny'r grisiau, ac i'r ystafell wely. Gosododd ei law ar y switch, a goleuodd yr ystafell, ac yno ym mreichiau ei gilydd yr oedd Enid ei briod a Glyn Huws F Teimlodd rywbeth yn datod oddi mewn iddo; nes colli ohono ei anadl. Pan ddaeth ato'i hun, dechreuodd chwerthin yn ddilywodraeth. Neidiodd y ddau ar eu traed yn wyllt yr olwg, a dyma Ifan yn gweiddi dros y Ue, Itha reit, Glyn, tipyn q sens o hiwmor sydd isha," a dyma'r chwerthin brawychus yn torri allan unwaith eto yn ddireolaeth. Rhuthrodd y ddau drwy'r drws, a'r chwerthin aethus yn eu dilyn i'r nos. Yn Welch Piety; 1740, mewn Uythyr a sgrifennwyd ganddo Hydref 11, 1739, soniodd Gruffydd Jones, Llanddowror, am y siroedd Cymreig, ac yna chwanegodd-" heblaw tair sir arall a gyfrifir yn siroedd Seisnig, sef, Mynwy, Henffordd ac Amwythig, 1Ie y bydd y rhan fwyaf o'r bobl gyffredin (moat of the inferior people) yn siarad Cymraeg." Ac mae cadw Enaid yn fwy camp a chywreindeb nac achub Tyddyn o dir, neu iachau Corph clwyfus. — Ellis Wynne, yn y Rhagymadrodd i Rheol Buchedd Sanctaidd.