Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PLASTICS Gan D. OSBORNE OWEN BYDD haneswyr yn aml yn mesur cyfnodau amser wrth y sylweddau a ddefnyddir gan ddynion i'w gwasnaethu, megis Oes y Cerrig, Oes y Pres, ac Oes yr Haearn. Nid yw'n afresymol disgwyl mai'r enw a roddir mewn amser i ddyfod ar y cyfnod presennol, a'r nesaf, fydd Oes y Plastics. Yn wir, y mae America ers tro wedi derbyn yr arwyddair Plastics— y Byd Yfory." Gan hynny, cyfyd y cwestiwn, Beth yn union ydyw Plastics sut y trinir hwynt, ac i ba Ie y maent yn debyg o'n harwain ? Gwnaethpwyd y gwaith arloesi mewn Plastics diweddar gan Dr. Baeke- land, yn bennaf, ddeugain mlynedd yn ôl. Gwyddorydd Almaenaidd ydoedd, a thrwy ei waith ymchwil disglair i geisio cael hyd i sylwedd sunthetig a chanddo nodweddion arbennig, rhoddodd wir gychwyn i ddull riewydd o feddwl mewn gwyddor a pheirianyddiaeth. Cyn gynted ag yr ymwrthododd â rhagfarnau, a defnyddio pa sylweddau bynnag a gaffai, daeth y ffordd newydd o feddwl, sef ymostwng i wyddor fel y cynhyrchydd cyffredinol, yn ffasiwn ym myd cemeg sunthetig. Ar ôl ei ymdrechion ef, buan y daeth ystor (reainus substances) i fri, ac ni chyfyngid y maes ymchwil bellach i sylweddau Hylif a chrisialau. Bu cryn gynnydd, er dyddiau Baekeland, a dangosodd cemegwyr amlwg eraill, a'r Americanwr Carothers yn àrbennig, fod yn bosibl adeiladu cyfluniadau tebyg iawn i gyfluniadau cynhyrchion naturiol. Y mae'r eyfluniadau hyn ar ffurf moleciwlau mawr sydd yn gadwyni hir, a gwyddys yn awr, nid yn unig y gellir adeiladu'r rhain, ond hefyd y gellir newid eu hansawdd er rhoddi inni yr union nodweddion y bydd arnom eu heisiau, Cyraeddasom, yn wir, y pwynt pryd y gallwn, yng ngeiriau Carlton Ellis, deüwra'r moleçiwlau hir i'n dibenion ein hunain." Yn fras, geUir rhannu defnyddiau plastig yn ddau ddosbarth, sef Thermo- plastic, defnyddiau sydd yn meddalu wrth eu poethi, a Thermosetting, defnydd- iau sydd yn caledu wrth eu poethi. Gellir Uunio ac ail-lunio defnyddiau thèrmoplastig bron yn ddiddiwedd drwy eu poethi a'u gwasgu drachefn a thrachefn. flhaid cofio, wrth gwrs, mai cyfansoddau carbonyn gyfan gwbl ydyw Plastics, ag eithrio ychydig ohonynt, ac am hynny ni ellir eu cadw o dan ormod gwres yn ddiddiwedd heb berygl eu datgyfansoddi yn gemegol. Yr eithriadau ydyw'r defnyddiau hynny y mae silicon mewn rhan yn cymryd Ue carbon ynddynt, ond ychydig ydyw nifer y rhain, a hyd yn hyn ni ddat- blygwyd llawer arnynt. Cynnwys y defnyddiau thermoplastig arloeswyr y diwydiant Plastics, sef Selwloed a CeUulose Acetate, sydd i'w cael yn ffurf llafnau, gwiail a phibellau, ac y gellir eu hystumio fel y mynner. Cynhwysant hefyd y sylweddau mwyaf newydd, megis yr acrylic potymera (dyna ydyw polymer, sylwedd a adeiladwyd â chadwyni o foleciwlau mawr, a'r rheini yn eu tro wedi eu hadeiladu â moleçiwlau Uai), ethyl cellulose Plastics, a'r defnyddiau a geir drwy bolymereiddio sylweddau sydd yntarddu o vinyl a styrene.