Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddysgir yn yr ysgoUon, yn enwedig yn yr Ysgolion Gramadeg, fod â pherthynas fyw' rhyngddynt â bywyd pob dydd. Bellach, nid yw'r addysgwyr mwyaf diweddar a chlir eu gwelediad yn credu bod dilyn gwybodaethau haniaethol, fel Lladin a'r ieithoedd eraill, yn ddigon i gadw diddordeb yr ieuainc, nac i'w cymhwyso i wneud eu rhan fel adran ddefnyddiol o gymdeithas. Y mae cryn lawer i'w wneud eto er cael gwell cydbwysedd rhwng y Gwyddorau a'r Celfyddydau, ond peth calonogol ydyw sylwi bod llawer o ysgolfeistriaid anturiaethus yn amgyffred posibiliadau mawr gwyddor ac yn chwilio bob amser am foddion i gysylltu gwaith yr ysgol â phroblemau diwydiant. Yn wir, ers tro bellach, fe sefydlwyd ysgolion arbennig Ile y gellir astudio Plastics o agwedd addysgol a diwydiannol. Daeth nifer o gyrff arholi i fod, ac y mae llawer o gyrsiau hyfforddi yn nhechneg Plastics, cynllunio moldiau a gwydd- orau peirianyddol, i'w cael mewn amryw ysgolion technegol ar hyd a Ued y wlad. Darperir cyrsiau ar gyfer efrydwyr a fynn astudio Plastics yn bwnc arbennig ym Mhrifysgol Birmingham, y Northern Polytechnic, Adran Ogledd- Orllewin yr Institute of Technology, Prifysgol Manceinion, y Royal Technical Cottege, Glasgow, a'r College of Technology, Leeds. Y mae pwnc addysg yn cael ymaflyd ynddo oherwydd amgyffred bod cynnydd effeithiol a Uwydd- iannus Plastics yn dibynnu ar fod cyfleusterau hyfforddi yn cael eu darparu ar gyfer yr oes nesaf. Ond efallai mai agwedd bwysicaf Plastics ar hyn o bryd ydyw eu bod yn arwydd o ddull newydd o feddwl, a'u bod wedi arloesi'r ffordd at ddulliau a chwrsweithrediadau newydd sydd bron yn ddiderfyn yn eu posibiliadau. Oherwydd y posibiliadau hyn, bydd eu heffaith ar gynllunio yn fwy ac yn fwy fel y datblygir hwynt. Y mae cynnydd Plastics yn rhoddi lle inni gredu, ond inni fod â digon o amynedd i ddilyn y syniad newydd hwn ac yn ddigon effro i afael yn y cyfle newydd a gynigia inni, y gallwn eto ail-ennill ein mas- nach allforio a'n safle bwysigyn y byd, ail-gynllunio ein cyfundrefn addysg hen ffasiwn ac adnewyddu ein doniau celfyddydol, a rhoddi i bawb angen- rheidiau bywyd a digonedd o'r cysuron a'r hamdden y mae gan bob dyn hawl iddynt. RHAI 0 AWDURON Y RHIFYN Y PARCH. GWILYM Davies, Aberystwyth-Llywydd Cyngor Cenedlaethol Cymru o Gymdeithas y Cenhedloedd Unedig; sylfaenydd Neges Plant Cymru." HUGH GRIFFITH—Athro yn Ysgol Ramadeg Caernarfon. A. O. H. JABMAN—Darlithydd yn yr Adran Gymraeg, Coleg y Brifysgol, Caerdydd. D. Osbobne Owen, Llanelwy-Athro yn Ysgol Ramadeg y Rhyl. DR. Êdwin A. OWEN-Athro Anianeg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor Cadeirydd Rhanbarth Gogledd Cymru o Gymdeithas AddyBg y Gweithwyr.