Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ASTUDIO HANES PLWYF Gan BOB OWEN IV LjAWS o lawer yw dyfod o hyd i ddefnyddiau hanes plwyf o'r flwyddyn 1695 hyd heddiw, am y ceir defnyddiau crai ar lawer agwedd.ar fywyd yng Nghofrestrau Bedyddio, Priodi a Chladdu, sydd yng ngofal Rheithor neu Ficer y Plwyf, ac ond odid na cheir rhai cofrestrau sy'n mynd cyn belled yn ôl a 1590, ac ambell un fel Gwaenysgor yn mynd yn ôl i tua 1540. Ond teg yw mynegi bod rhai plwyfi wedi bod yn dra esgeulus, ac ni cheir dim cynharach na rhyw 1750 ynddynt hwy. Purion fyddai imi fynegi y geüir cael hyd i gofrestrau dybledig (duplicates) pan fo'r rhai gwreiddiol ar goll o gistiau'r plwyf. Copïau yn perthyn i'r pedair esgobaeth ydyw'r rhain, ac erbyn hyn cedwir hwy yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ond ysywaeth ni cheir hawl i'w copîo yno heb dalu ffi bur drom am bob cofnod a godir, tra byddai Cofrestrydd yr Esgobaeth ym Mangor yn gadael tragwyddol ryddid heb dâl o gwbl i chwilotwyr eiddgar. Yn sicr, wedi i'r cofrestrau hyn fynd i'r Llyfrgell Genedlaethol fe ddylid Uacio llawer ar hen ddeddfau caeth, a rhoddi rhyddid llwyr i haneswyr eu copio yn ddi-dâl. Ceir y colliadau cofrestrol plwyfol yn aml yn y rhain hyd tua 1676. Un gair o rybudd i bobl sydd yn trigo mewn plwyfi Ue y mae Annibynwyr neu Fpdyddwyr wedi gwreiddio ynddynt yn gynnar, sef gofalu am beidio â chwplàu eu tasg heb ymgynghori â chofrestrau'r Eglwysi, neu'n hytrach y Cynulleidfaoedd, hynny. I bobl y bydd arnynt eisiau hanes plwyf o'r saf- bwynt hwn, rhaid iddynt ymgynghori â'r List of Nonconformist Regiaters in Somerset House. Ceir yn y rheini, yn aml iawn, gofnodion pwysig am yr achos Ymneilltuol yn ei ddechreuad, pwy a fedyddiai'r plant, neu'r bobl mewn oed a fedyddid tros eu pennau rhoddant ryw fras amcan am nifer yr Ymneilltuwyr mewn llawer plwyf. Cofnodion i lawr hyd 1837 a geir yn y rhai hyn. Pan aeth y Methodistiaid Calfinaidd yn gorff yn 1811, rhaid oedd iddynt hwythau anfon eu cofrestrau o 1811 hyd 1837 i Lundain. Daliai'r Eglwys i gofnodi yn hir ar ôl 1837 heb anfon copïau i Swyddog Cofrestru'r Dosbarth. Cofnodion pwysig iawn a geir am lawer plwyf yw cofnodion Wardein- iaid y Plwyf. a chofnodion y Festrîau ceir hyd i'r rheini yn ami yng nghist y plwyf, rhai mewn llyfrau wedi eu rhwymo'n ofalus ac eraill mewn papurau rhyddion, yn afreolaidd. Mewn ambell blwyf ceir hwynt yn cofnodi o tua 1700 hyd 1840, a rhai yn ddiweddarach na hynny. Mewn gwirionedd, y rhain yw Hansarda gweithrediadau'r plwyfi, ynglŷn â difa llwynogod, a'r tál a delid am eu lladd difa cigfrain, cathod gwylltion, a'r tâ1, am ladd pob un ohonynt; atgyweirio llwybrau, a ffyrdd y brenin rhannu'r elusennau, a rhestrau o'r rhai a'u derbyniai; treth y tlodion plwyfo hen bobl, ao weithiau cyfreithio ynghylch hynny pan fethid â phenderfynu'r plwyfi y daethent ohonynt; cofnodion lawer am brentisio plant tlodion gyda chrefft- wyr yn gryddion, teilwriaid, gofaint; taliadau ynglŷn â chadw plant am- ddifaid; helyntion ynglyn â'r Milisia, a'r dull o ddewis dynion i berthyn i'r rheini enwau'r wardeiniaid, a goruchwyliwr ý plwyf ar ran pob tre ddegwm a oedd ynddo. Ynddynt ceir cyfrif o'r gost 0 godi eglwys newydd,