Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GOEDEN EIRIN Gan CYNAN Y Goeden Eirin, gan J. Gwilym Jones. Gwasg Gee. Pris 4/ YR awr drafod ydoedd yn Nosbarth W.E.A. Llanariel, dosbarth cymysg o ryw hanner dwsin o ffermwyr ieuainc, yr un nifer o chwarelwyr, prifathro'r ysgol elfennol a thair o'i athrawesau, dau glarc, un siopwr, un pregethwr, a phump o wragedd ty-heb anghofio gwr y garage, a ddaethai yno ar y cychwyn hanner awr cyn y diwedd i redeg yr athro yn ei fotor dair milltir i ddal y bws, ond a gyrhaeddai'r ysgol bob Nos Fawrth bellach hyd yn oed ddeng munud o flaen y rhai yr oedd eu henwau ar y rhestr. Bu'r athro, drwy dymor oer y gaeaf diwaethaf, yn ceisio arwain efrydwyr (a eisteddai ar anesmwythyd desgiau plant bach) i ddarllen a mwynhau a gwerthfawrogi Llenyddiaeth Gymraeg Gyfoes, ond yr unig ddarn yr oedd yn hollol siwr ei fod wedi cyffwrdd pob calon oedd y pennill hwnnw o Awdl yr Haf Dymor hud a miri haf, Tyrd eto i'r oed ataf." Yr oedd hi'n bwrw eira'n drwm y noson honno Rhai wythnosau cyn y Nadolig dechreuodd yr athro ddarhthio iddynt ar Y Stori Fer Gymraeg, gan eu hannog i ddarllen enghreifftiau arbennig a drafodwyd wedyn yn y dosbarth. Daeth Y Goeden Eirin allan o'r wasg mewn pryd i'r athro fedru ei hargymell iddynt tros bythefnos y gwyliau, a phan ddaeth y dosbarth eto ynghyd yr oedd nifer da o'r efrydwyr wedi prynu a darllen y Uyfr, ac yn awyddus i'w drafod. Gan nad oedd gennyf ddosbarth fy hun y noswaith honno, yr oedd yn dda gennyf dderbyn gwahoddiad i fynd am dro i Ddosbarth Llanariel. Mwynheais yn fawr y ddarlith ddeaUus ar Y Stori Fer, a'r darlleniadau bywiog i egluro rhai o'r pwyntiau. Ond am y drafodaeth yn arbennig y daethwn, oherwydd yr oedd fy nghyfaill a'm cyd-athro wedi egluro imi fod yr efrydwyr yn dymuno cael trafod Y Goeden Eirin y noson honno. Dechreuodd gŵr y garàge—a ddywedais i wrthych mai ef hefyd a fyddai'r cyntaf i siarad ymhob trafodaeth erbyn hyn ?-trwy osodiad yn blwmp ao yn blaen nad oedd ef wedi cael dim blas ar y llyfr, a'i fod yn methu deall pam y gelwid ef yn Uyfr o straeon o gwbl. Os stori, stori-pethau'n digwydd i bobl, pethau cyffrous, fel darn o"r lefel yn disgyn ac yn trapio Harri a Dic Bach yn Yr Hogyn Drwg, neu bethau digri fel y triciau a chwaraewyd gan fechgyn direidus ar 'Het Jac Jones,' yn Straeon y Pentan. Rhowch imi rywun fedr adrodd stori ddifyr sy'n dal diddordeb drwy ddangos inni weithi redoedd ei gymeriadau. Mi fydda i'n leicio plot go dda hefyd-edrychwch ar Daniel Owen. Dyna ichi storiwr." Cytunodd yr athro yn frwd a'r deyrnged i Ddaniel Owen fel storiwr, ond fe fynnai atgoffa i'r siaradwr mai'r plot oedd y peth gwannaf yn ei nofelau a bod Daniel Owen ei hun yn teimlo hynny, ac yn ymboeni o'r her- wydd mewn oes pryd y gosodid mwy o fri ar blot crwn, cryno, nag a wneir heddiw. Ond, a bod yn fanwl," meddai, onid oedd ganddo yntau hefy4