Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fod yn gynnil, ac rwy'n gofyn ai cynildeb yw rhoddi'r holl. fanylion aflednais yma ynghylch y pigo trwyn a chrafu'r grachen. Wrth gwrs, cocyn hitio yw'r pregethwr yn y stori-cocyn hitio nid yn unig i'r llofrudd ond i'r awdur hefyd, y mae arna i ofn." Hanner munud, Mr. Rowlands," meddai prifathro'r ysgol. Rydech- chi am briodoli i'r awdur rŵan ymosodiad ar bregethwyr, pryd mewn gwir- ionedd yr hyn sy'n digwydd yma yw bod yma gymeriad arbennig o ddirmygus yn bregethwr arbennig. Byddai'r un man i mi gwyno bod hwn-a-hwn yn dirmygu ysgolfeistri am fod ganddo stori am un ysgolfeistr annymunol." Na, nid felly y mae hi, chwarae teg i minnau,"atebodd y gweinidog. Edrychwch chi eto. Dydi'r un o gyfeiriadau'r Goeden Eirin at bregethwyr yn garedig iawn-o'r ddau weinidog yn y stori gyntaf at fyfyrwyr diwin- yddol Bangor. Dwn i ddim beth i'w feddwl o agwedd yr awdur at grefydd." Wel, wir," meddai Robat Robaits, yr hynaf o'r chwarelwyr, a blaenor gyda'r Annibynwyr, "mi ddwedwn i mai dim ond gẃr crefyddol iawn ei ysbryd fedrai fod wedi sgrifennu rhannau helaeth o'r llyfr hwn, gŵr cyfriniol ei ysbryd, yn wir. Annibynnwr ydw i, fel y gwyddoch-chi, ond fe fyddai llyfr fel hwn yn amhosibl ar wahân i Fethodistiaeth-hyd yn oed pan yw'n ymosod ar gyfundrefn. Fe fynn magwrfa a diddordeb angerddol yr awdur mewn crefydd dorri allan drachefn a thrachefn. A chyda phob parch i Mr. Rowlands-ac y mae'n ddigon naturiol iddo gwyno ar y driniaeth a gaiff y weinidogaeth yn y llyfr-Piwri tan o artist yw John Gwilym Jones, Nid yw hynny'n beth cyffredin, ond mae'n beth cwbl bosibl, er bod rhai ohonoch yn meddwl bod Piwritaniaeth ac Artistri yn gwbl groes i'w gilydd, ac er na fuasai Mr. Jones ei hun hwyrach yn barod i addef bod cymaint o ymsudiadau crefydd y tu ôl i'w waith." "Rwy'n tueddu i gytuno â chi, Robat Robaits," meddai'r athro, a chan gofio bod arna i eisiau dal y bus yna ym mhen y lôn fawr am chwarter wedi naw, mae arna i awydd cloi'r drafodaeth gyntaf a gawsom fel dosbartb ar Y Goeden Eirin drwy ddarllen paragraff ichi, paragraff gorfoleddus sy'n peri i ddyn deimlo ias fel ias darllen huawdledd gorawenus yr hen gyfrinydd Thomas Traherne yn ei Centuries of Meditations The green trees when I saw them first through one of the gates transported and ràvished me, their unusual beauty made my heart to leap, and almost mad with ecataay, they were auch strange and wonderful things' Ac aeth ymlaen i ddarllen o'r stori, Y Cymun Edrychodd ar Ddyffryn Ysig o un agen i'r llall, ar draws ei wely esmwyth glas, a'i erchwynau coediog, a gwelodd deyrnas nefoedd. Troes yr adlodd a'r yd ifanc yn waith deheulaw Duw. Ym mwrlwm yr afonydd bach a ym- gollai yn nwfrysig clywodd Gân Moses a Chân yr Oen. Curodd y coed eu dwylo a daeth corgan y saith ugeinmil o'u dail gwyrdd. Cerddodd Mab y dyn ar y cloddiau cerrig a dyfnhau lliwiau'r blodau a chyflymu adenydd y Robin Goch a'r dryw bach. 'Roedd yntau gartref." Ac â miwsig y darllen hwnnw'n dal i ganu yn fy nghlustiau. y rhedpdd gŵr y garage ni am y bus, yn dawedog iawn ein tri.