Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TRO TRWY'R CANGHENNAU Gan C. E. THOMAS MA, nid mynd i'r coed am dro, ond mynd oddi amgylch canghennau'r W.E.A. i weld sut y mae'r gwaith yn ffynnu. Y mae'r hen ganghennau, ar y cyfan, yn llewyrchus iawn, a rhai ohonynt yn gwneud ymdrechion arbennig i gario pwys a gwres y gwaith. Y maent yn ganolfannau pwysig i ddeffro diddordeb eu hardaloedd mewn addysg, drwy drefnu Ysgolion Undydd a Darlithiau Arbennig. Heblaw hyn, ymdrechant yn lew i godi arian i aUuogi'r Rhanbarth i dalu ei ffordd. Y mae popeth gwerth ei gael yn werth ymdrechu amdano ac yn werth talu amdano, ac y mae'r W.E.A. yn fyw i'r ffaith honno ers talm. Os hawliwn y fraint o drefnu ein dosbarthiadau ein hunain, fe ddylem hefyd ymgymryd â thalu'r draul. Gwnaethpwyd hynny gennym ar hyd y blynydd- oedd. Trwy ddygn weithgarwch ein canghennau a'n dosbarthiadau, fe gasg Iwyd miloedd o bunnau yn ystod y ddwy flynedd ar hugain a aeth heibio, tuag at dalu am Addysg Pobl mewn Oed yn ein dosbarthiadau. Y mae Canghellor y Drysorfa newydd gyflwyno'i Gyllideb i Dy'r Cyffredin pan ysgrifennaf y nodiadau hyn, ac y mae un peth ynglŷn â hi y cytuna pawb i'w ganmol, sef ei bod yn Balanced Budget," yn trefnu i wneud y derbyn- iadau yn fwy na'r taliadau. Hydera Trysorydd y W.E.A. y bydd ein hym- drechion arbennig yn sicrhau i ninnau gyllideb a fydd yn balansio. Sefydlwyd tair. Cangen newydd yn ystod y gaeaf, sef rhai Llanfair- fechan, Prestatyn, a Rhosfair (Môn). Y maent oU yn argoeli deffroad mewn awyddfryd ymysg y werin i drefnu eu cyfleusterau addysg eu hunain. Arwydd da arall ydyw prysurdeb y canghennau mewn trefnu Ysgolion Undydd a Darlithiau a Seiadau Holi, a chyfarfodydd cyffelyb. Ceisiodd un gangen yn daer gael Henry Wallace, ac un arall Arglwydd Russell, ac er iddynt fethu y tro hwn, nid ydynt yn gwan-galonni. Y mae Sir Feirionnydd, sydd byth a beunydd ar flaen y gad tros freintiau addysg, wedi ymwregysu unwaith eto i ymladd yn erbyn anwybodaeth. Cafwyd cychwyn addawol i'r gwaith mewn cyfarfod o Gangen Ystumaner ym mis Ebrill, pryd y penderfynwyd archwilio'r tir yn ofalus er mwyn paratoi ymgyrch ymhob cyfeiriad y gaeaf nesaf, drwy gydweithrediad ag Ifan ab Owen Edwards, o Goleg Aberystwyth, ac E. Cadfan Jones, yr Athro Preswyl. Mawrth 22, cynhaliodd Cangen Caemarfon Ysgol Undydd, a chafwyd anerchiadau ynddi gan Rhys J. Davies, yr Aelod tros Westhoughton, ar ei Daith i America, a chan E. Cadfan Jones ar ein Masnach Dramor. Rhoes Mr. Davies adroddiad diddorol a hwyliog iawn o'r hyn a welodd yn America, gan gyfeirio at y Mudiad Llafur yno, a phroblem y dyn du-clarcod duon ym manciau'r dyn gwyn yn Chicago, meddai ef, a chlarcod gwynion ym manciau'r dyn du. Yr oedd darlith Mr. Jones yn olau iawn, ond yn ddigalon dros ben, nes bod un o'r gwrandawyr yn holi'n ddifrifol tybed a fyddai'n well inni i gyd ein Uadd ein hunain cyn i rywbeth gwaeth ddigwydd 1