Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Ddrama yng Nghymru, gan Elsbeth Evans. Cyfres Pobun, o dan olygiaeth E. Tegla Davies. Gwasg y Brython. Pris 2/T. Llyfr defnyddiol iawn ydyw hwn, yr unig lyfr o werth ar y pwnc a gyhoeddwyd hyd yn hyn yn Gymraeg. Fe wnâi werslyfr campus i ddosbarth- iadau. Yn ôl cynllun llyfrau eraill yn y gyfres, ymdrinir â'r ddrama yng Nghymru Ddoe, Heddiw ac Yfory "-dyna'r tair pennod. I ddechrau, rhoddir braslun cytbwys a llawn o hanes gwahanol ffurfiau o chwaraeon ac anterliwdiau a dramâu hyd ddiwedd y ganrif o'r blaen. Diddorol iawn ydyw'r ymdriniaeth ar y modd y datblygodd cymeriadau'r Ffŵl a'r Cybydd yn nwylo anterliwdwyr y ddeunawfed ganrif. Mi hoffai s y stori honno am gwmni o Lanberis yn 1881 yn mynd yr holl ffordd i Lerpwl i weld nifer o ddramâu Saesneg er mwyn ymbaratoi ar gyfer perfformio drama Gymraeg. Dyna'r ysbryd iawn. Cyfoethogir y bennod ar y ddrama heddiw drwy edrych arni yng ngoleuni ei chefndir yn Lloegr ac Iwerddon, a chyfryngau eraill i ddiddori ac addysgu, fel y Neuaddau Cerdd a'r Radio. Dengys y brasolwg a roddir yn y bennod hon fod llawer o weithgarwch ac o arbrofi wedi bod ynglŷn â'r ddrama yng Nghymru yn yr hanner canrif a aeth heibio. Dywedir bod mwy o ddarllen ac astudio dramâu yng Nghymru nag a fu, a mwy o ofyn am ddosbarthiadau drama o dan nawdd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr." Byr ydyw'r bennod olaf, awgrymiadau sut ,i gael gwell dramâu yn Gymraeg, a sut i gael gwell actio. Yr ydym ni Gymry o dan an- fantais fawr rhagor y Saeson, oherwydd ein bod yn rhy dlawd (am mai ychydig ydym) i gynnal pobl sydd yn actorion wrth eu swydd. Actorion ar eu bwyd eu hunain sydd gennym ni, ac yn eu horiau hamdden yn unig y cânt gyfle i ymberffeithio yn y gelfyddyd. Rhaid i ni, felly, fodloni ar y math o gyn- Uuniau cydweithredol a awgryma Miss Evans, ac ar gynhorthwy rhywun fel yr Eisteddfod Genedlaethol a'r B.B.C., a llunio'r gwadn yn 61 hynny. DAVID THOMAS CYFEIRIADAU Ysgtifennydd Cyffredinol, Cymdeithaa Addysg y Gweithwyr— rErnest Green, 38a St. George's Drive, London S.W.l. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithaa Addysg y Gweithwyr D. T. Guy, Swyddfa'r W.E.A., 38 Charles Street, Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addyàg y Gweithwyr— C. E. Thomas, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. Golygydd LLEUFER-David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnea LLEUFER-D. Tecwyn Lloyd, Coleg Harlech, Harlech. Dosbarthwr LLEUFER-Mrs. Vera Meikle, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor.