Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CYLOHGRAWN CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRü CYF. III GAEAF 1947 Rhif 4 Gan fod pris Lletjfeb yn rhy isel i dalu am ei argraffu, bydd yn rhaid ei godi y flwyddyn nesaf i Swllt y Rhifyn. Ond yr un prydfe chwanegir at rif y tudalen- nau. Bydd pob rhifyn yn cynnwys 52 tudalen yn lle 36, ac fe'i hargreffir mewn llythyren frasach, fel hon. Os daw'r cyflenwad papur mewn pryd, fe'i gwisgir mewn amlen newydd liwgar, ddisglair. Bydd ar werth o hyn ymlaen mewn siopau llyfrau a phapurau, yn ogystal ag yng nghanghennau a dosbarthiadau'r W.E.A. NOD I ADAU'R GOLYGYDD Trefnodd y Weinyddiaeth Addysg, yn ei doethineb, fod Addysg Pobl mewn Oed i fod yn aml-ochrog-nid yn unig fod yr aelodau i gael astudio gwahanol bynciau, ond hefyd eu bod i ddysgu drwy wahanol ddulliau. Nid yw'r darlithiau ynddynt eu hunain yn ddigon y mae'n bosibl hanner-wrando ar y darlithydd, a hanner-gysgu yr un pryd. Ar ôl y ddarlith ceir awr o drafodaeth, pryd y caiff yr aelodau ddatgan eu barn-a dadlau ei hochr hi os byddant yn teimlo felly — ar bynciau a fo'n codi oddi wrth y ddarlith. Bydd trafod gwahanol farnau, ac edrych ar y mater o wahanol agweddau, yn help i ddeffro diddordeb ac i wneud pwnc y ddarlith yn gliriach ym meddyliau'r aelodau. Cyffroi meddylgarwch — dyna'r peth mawr. Ac ar gefn hynny, darpara'r Weinyddiaeth fod yr aelodau i sgrifennu rhywbeth eu hùnain- braslun o'r ddarlith, neu drafodaeth ar ryw agwedd arni, neu gyfansoddiad llenyddol. Trefnir hefyd fod y dosbarth i gael stoc o lyfrau i'w darllen. Ni all y darlithydd, mewn awr o amser, wneud llawer mwy na thorri'r dywarchen megis; disgwylir iddo gyfeirio'i wrandawyr at lyfrau ac ysgrifau 11e y cânt gyfle i ddarllen mwy am y pwnc. Y mae gan Francis Bacon ddywediad y byddaf yn hoff o'i ddyfynnu- fod darllen yn gwneud dyn yn ddyn llawn, ac ymddiddan yn ei wneud yn ddyn parod, ac ysgrifennu yn ei wneud yn ddyn manwl. Dyna grynhoi llawer o feddwl i ychydig o Ie. Wedi gwrando ar ddarlith neu bregeth, neu ddarllen ysgrif, bydd gan ddyn ryw syniad am yr hyn a glywodd neu a ddarllenodd, ond syniad niwlog, annelwig, ydyw yn aml. Sylweddola hynny weithiau pan ofynnir iddo ail-adrodd yr hyn a ddysgodd. Ped eisteddai i lawr i sgrifennu braslun ohono, fe'i gorfodid i geisio cael trefn ar ei feddyliau. Y mae sgrifennu, felly, yn rhan bwysig o'r gwrando, a da