Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PORTINLLAEN Gan J. GLYN DAVIES LJ ANER can mlynedd yn ol, gwlad y llongwyr oedd Lleyn ac yn naturiol felly, oblegid nid oedd unman ynddi rhwng Nefyn ac Aberdaron fawr pellach na rhyw dair milltir o lan y mor. Yr oedd rhan helaeth o'r boblogaeth yn byw ar y mor, a phob ffarm agos wedi magu llongwr, a marc y mor yn gyffredin ar y trigolion rhwng yr Eifl ac Enlli. Gwelech yn y tai luniau llongau mawr a bach mewn gwledydd pell, a llun ambell i frigantin neu sgwner, a mainsail gymaint a chae, chwedl yr hen forwyr. Byddai enwau fel Antwerp, Hambro, Cadiz, Bwmbae, Calcwta, Cali-o, Sydna a Ffrisco i'w clywed beunydd. Pedwar ugain mlynedd yn ol, byddai mor naturiol mynd mewn llong i Sasiwn yng Nghaernarfon ag ydyw mynd mewn tren neu bus motor heddyw. Aeth mintai felly o gyffiniau Nefyn ac Edern ar frig, a chael gwynt croes a cholli'r oedfa. Heblaw morwyr yn morio yn bell, yr oedd pysgotwyr, pob un, am wn i, wedi bod ar y mor mawr rywbryd, ond wedi dewis byw alongside gartref. Yr oedd trawlers trymion Pwllheli a'u criw o ddau neu dri yn gweithio ar y mor yr ochr arall i Bortinllaen, ond Portinllaen a Nefyn ac Edern ac Aber- daron oedd fy nghynefin i, ac am gychod mwy distadl na trawlers y gwyddwn i oreu y cychod agored oedd ymhob cilfach dywodog yn yr haf, wedi eu rigio ran amlaf a hwyl sbryd a jib, ac ambell i un a mizzen. Yr oedd cychod agored mawr Enlli yn gychod dau flaen maintiolus, a hwyliau sbryd a mizzen, yn nofio ag ychydig o ddwr danynt, a digon o led i nofio'n ysgafn dros y tonau mawr, i gludo gwartheg a cheffylau. Byddai cychod tebyg i'r rhain yn hwylio o Aberdaron i Lerpwl gan mlynedd yn ol i werthu ymenyn. Nid gwyr yn byw ar bysgota oedd y pysgotwyr i gyd, ond yr oedd yn eu plith ffermwyr a melinyddion ac eraill oedd am osod rhwydi i ddal penwaig, neu gewyll i ddal ceimychiaid a chrancod, neu am hwylio'r bau am fecryll. Cychwyr deheuig a pharod oeddynt. A chyda hwy gwelech hogyn neu ddau yn y stern-sheets yn sbydu'r cwch yn selog iawn, ac fel hyn y dechreuodd aml un ei yrfa fel llongwr. Heblaw morwyr wrth eu crefft, neu un grefft o ddwy, chwi a gaech grydd neu deiliwr neu was ffarm wedi bod ar sgwner yn Hambro neu Copenhagen, neu Dantzig, yn hogyn bach. Aeth un felly yn ddeg oed. Nid oedd ball ar fechgyn yn mynd i'r mor, ac o gartrefydd cysurus hefyd. Crefft byddigions Cymraeg Lleyn oedd crefft y mor. A phwy oedd byddigions y bechgyn ond hen gapteiniaid blonegog yn byw ar eu pres, ac wedi codi tai a dwy ffenest haner baril, iddyn nhw gael edrych allan ar y port a'r starboard beam. Debyg iawn, yr oedd bodau uwch na chapten llong, Syr Love Jones Parry, Madryn, er engraifft. Ond er mor agos atoch y gallai hwn fod ar sgwrs, gwr yn byw mewn castell oedd. Nid felly yr hen gapten llong. Chwi a'i