Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

chwi byth. Ambell i waith, yn ol y teitiau, aem heibio i Ben Caergybi, a chael aroglau'r gwair wrth fynd heibio i Fon. Pryd arall, aem drwy Afon Gnafron, chwedl yr hen forwyr am Afon Fenai, a chael gweld waliau Castell Caernarfon yn wridgoch tan godiad haul, ac ymhen ychydig drum las Portin- llaen a'r tai gwynion a chochion ar y traeth. Byddwn yn mynd hefyd i fau Aberdaron ar y Countess of Lisburne, ar ei ffordd i Aberystwyth, neu ar y Rebecca ar ei ffordd i Bwllheli, a chwch yn ein disgwyl ar ganol y bau, a mynd i'r cwch i lawr rhaff dros starn y stemar, ac aros i'r cwch ddyfod tan draed, a "let go." Yr oedd y newid o Leyn i Lerpwl yn ddirfawr. Cymraeg ymhob man yn lle Saesneg. Y Ion las dawel yn lle strydoedd swnllyd. Peraroglau mwg mawn, a phorffor bach cloddiau pen yr allt, a blodau'r maes cyn laned a goleuni, yn lle bod haen o barddu arnyn nhw. A'r cloddiau preiffion gleision, a'r llwybrau ar eu copau, fel y gallech gerdded o Lanbedrog i Edern arnynt agos bob cam. Yr oedd cloddiau Lleyn yn un o'i hynodion. Yr oedd eu gwadnau yn llydan, ac yn wastraff ar dir, ond aeth colled y cnawd yn enill i'r enaid. Yr oedd eu hochrau fel gerddi; blodau'r grug, bysedd cochion talsyth, blodau clust y fuwch yn llachar felyn, a swp o flodau eithin yma a thraw. Heddyw y mae bonion yr eithin yn cau'r hen lwybrau gynt. Nid oes mo'u heisiau ewch yn gynt ar geffyl haearn ar y ffordd. Hanes brys yw hanes Lleyn ers haner canrif bellach. Yr oedd y stemar yn gyflymach na'r sgwner, a ffarwel i'r sgwner. Y mae'r bus motor yn gyflymach na'r hen goets, a ffarwel i'r goets. Ac felly yn y blaen. Mae hi wedi chwech ar hen fules y felin. Heddyw y mae'r hen dawelwch wedi mynd. Ni chlywir cloch y llan gan ruadau o'r .awyr. Bellach bydd trigolion Lleyn yn cyrchu i Lerpwl am dawelwch, os nad ydyn nhw wedi blino arno. ARGLWYDD SHEFFIELD YN GADEIRYDD BWRDD YSGOLION LLUNDAIN.- Deuai i'r swyddfa am ddeg o'r gloch yn y bore, wedi darllen pentyrrau o bapurau swyddogol ac ymweld ag ysgol neu ddwy ar y cyrion eisteddai yn barhaus ar y naill bwyllgor ar ôl y llall, a gyrru'r gwaith yn ei flaen ar hyd yr amser gwnâi heb ei ginio, a llyncu cwpanaid o de yn frysiog; ac wedi hynny, hyd yn oed pan fyddai'n wael ei iechyd, daliai ati i weithio tan saith neu wyth o'r gloch y nos. Gofynnodd rhywun iddo rywdro, rhywun â nerfau llai gwydn na'i rai ef, oni theimlai weithiau fod y gwaith yn ddiflas ac undonog. Atebodd yntau y byddai'n teimlo felly ar brydiau, ond y pryd hwnnw byddai'n ymweld â rhyw ysgol ac yn cerdded trwy'r ystafelloedd, a gwylied posibiliadau daioni a drygioni yn wynebau'r plant, nes i nwyd gweithio ddyfod yn ôl iddo. — Graham Wallas.