Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

OLEW A HEDDWCH Y BYD Gan D. HUGHES LEWIS CEL llawer peth arall-y peiriant ager, er enghraifft­-ceir rhyw sôn am olew ymhob llenyddiaeth oddi ar ddechrau hanes yr oedd gan yr Hebreaid a'r Groegiaid a'r Rhufeiniaid rywfaint o wybodaeth amdano. Bitumen oedd yr hen enw Lladin arno, ond yn ddiweddarach, yn nechrau'r Canol Oesoedd, daeth yr enw sydd yn fwy adnabyddus i ni, sef Petroleum, yn gyffredin — o petra (craig) ac oleum (olew). Yn ôl Anwyl, creigolew yw'r enw Cymraeg priodol ar y dwfr tanllyd yma sy'n peri cymaint o ofn a phryder i garedigion heddwch yn ein hoes ni. Tua chanol y ganrif o'r blaen, dechreuwyd gwneud defnydd helaeth ohono i gynhyrchu goleuni,­-yn arbennig, ac yn y lle cyntaf, yn yr Unol Daleithiau. 0 fynyddoedd yr Alleghanny, ac o Dalaith Ohio, cychwynnodd y brenhinoedd olew ar eu gorymdaith rwysgfawr i'r sefyllfa o awdurdod sydd yn eu meddiant yn ein hoes ni. Nid gormodiaith yw dweud bod heddwch y byd yn y dyfodol yn dibynnu mwy ar benderfyniadau'r dynion hyn nag ar eiriau na gweithredoedd arweinwyr y gwledydd gwerinol. Y mae hanes yr ymchwil am olew, yn yr Unol Daleithiau ac mewn Tnannau eraill, a'r ymladd a fu rhwng y cwmniau cynnar, yn un o'r tudalennau mwyaf gwarthus ac erchyll yn holl hanes cyfalafiaeth fodern, ond nid oes ofod i olrhain hynny yn awr. Os myn y darllenydd gael darlun byw o'r cyfnod hwnnw, fe'i caiff yn nofel Upton Sinclair, Oil. Y mae'n weddol amlwg fod rhan gyntaf y Chwyldro Diwydiannol wedi ei seilio ar lo yn cynhyrchu ager mewn peiriannau, ond y mae yr un mor sicr erbyn heddiw fod ail ran y Chwyldro wedi ei seilio ar olew a thrydan. Tu ôl i'r gwladweinwyr a benderfynai dynged y cenhedloedd ym Mharis yn 1919, yr oedd pobl fel Deterding a Henri Berenger, y gẃr a ddywedodd wrth Clemenceau A feddo olew a fedd ymerodraeth olew trwm a reola'r cefnfor, olew ysgafn, pur, a reola'r awyr a'r tir. Bydd ymerodraeth y byd yn nwylo'r sawl a feddianno'r cyfoeth hwn, mwy gwerthfawr, mwy treiddgar, mwy dylanwadol yn y byd nag aur ei hun." Paham y daeth dynion i feddwl mor uchel am olew ym mlynyddoedd cyntaf y ganrif hon? Yr oedd yn rhagori ar lo mewn llawer ffordd yn haws ei godi o'r ddaear; yn llawer haws ei gludo o fan i fan, yn enwedig wedi gosod pibellau olew yr oedd costau llafur yn llai, yn enwedig mewn rhai o'r gwledydd yr oedd eu safonau byw yn is na rhai gorllewin Ewrop. Wrth ei ddefnyddio, yr oedd lle i gynilo yn fawr, o'i gymharu â glo cymerai lai o le ar fwrdd llong; yr oedd mwy o nerth mewn peiriant olew nag mewn peiriant glo o'r un faint a'r un pwysau yr oedd yn rhwyddach i'w lwytho, yn lanach i weithio ag ef ac yn lle'r colofnau mwg a godai o bob llong ryfel