Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GYMDEITHAS FECHAN Gan GEORGE M. Ll. DAVIES COFIAF holi'r anthropolegydd enwog, Dr. Fleure, a dreuliodd flynydd- oedd lawer yn Aberystwyth, beth oedd dawn y Cymry fel cenedl. Ateb- odd yn bwyllog- Nid ydych mor drwyadl â'r Almaenwyr, nac yn glir eich meddwl a'ch ymadrodd fel y Ffrancod, nac wedi dysgu diwylliant gwerin a chydweith- rediad y Daniaid, nac yn gerddorol fel yr Awstriaid, nac â dawn lliw a llun fel y Swediaid." Torrais ar ei draws-" A oes rhywbeth yn weddill inni ? Atebodd-" Oes, mi gredaf, y ddawn bersonol a chartrefol, ac nid oes ddawn werthfawrocach yn Ewrop yn y duedd bresennol at gyfundrefniaeth amhersonol mewn gwleidyddiaeth, diwydiant, ac addysg." Gair y gwýr modern yng Nghymru am y peth yw agosatrwydd." Hiraetha'r beirdd Cymraeg am ryw hen gynefin, megis Goronwy am Fôn, Islwyn am Enlli (a Gwynn Jones hefyd), a Cheiriog am Ddyffryn Ceiriog. Wedi byw yn Lerpwl, Llundain, a Chaerdydd, hiraethaf innau am ddawn a difyrrwch y gymdeithas a welais yn Aberdaron hanner canrif yn ô1. Nid oedd yno Meistr," ond Mr. Lloyd y Person cartrefol a Mr. Carreg y Plas, eithr crefftwyr a chymeriadau fel Huw Felin, Rhisiart Crydd, a Wil Saer. Cofiaf hen wraig yno'n dweud, Pobol dlodion ydan ni i gyd yn Aberdaron, ond nid oes neb mewn angen chwaith." Gwirfoddol, a phersonol a chym- dogaethol, ydoedd y rheffynnau dynol a'r rhwymau cariad a'u daliai ynghyd fel cymdeithas. Newidiwyd hyn oll gan addysg o ryw fath, gwasg rad ymhob ystyr, cyfleusterau teithio, a bywyd trefol. Fe welwyd y Goets Fawr yn rhoddi lle i'r trên a'r modur a'r aeroplen, a'r car post i'r telegraff a'r teleffon a'r radio,. a'r un pryd aeth bywyd y dref a'r faestref yn fwy atomig, unig a digymdog- aeth. Dywaid yr Athro Nicolas Berdyaev ein bod wedi arfer mesur cynnydd wrth gynnydd mewn cyfleusterau bywyd yn hytrach na chymundeb bywyd (communications rather than cömmunion). Gwêl Berdyaev achos sylfaenol rhyfel ac anghymod yn y tyndra rhwng yr Unigoliaeth a'i hawliau, a bwys- leisiwyd gymaint ym Mhrydain a'r**America, a Sosialaeth y dorf, a gyfyd mewn grym i wastatáu a lefelu'r gwahaniaethau. Ond, yn ôl Berdyaev, nid nac Unigoliaeth na Sosialaeth, ond personoliaeth (personalism) ydyw categori'r Cristion, sef gweled pob dyn yn berson, ac ymddwyn ato fel person. Ys dywaid Elfed, Dyn yw dyn ar bum cyfandir." Mewn ymgom ddiweddar ag Americanwr, cyffesodd Gandhi na welai obaith i India, fwy nag i'r Almaen gynt, mewn addysg ar lyfr heb addysg at fywyd gwirioneddol. Pa les," meddai Gandhi, os gwyddant y cwbl, oni