Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

dysgu crefydd yn yr ysgolion, a chyhoeddi dydd o Weddi Genedlaethol, oni bydd rhwymau cymdeithas bersonol, mewn teulu ac ysgol ac ardal, yn creu rhwymedigaeth wirfoddol a chyfrifoldeb personol. Ac felly ym myd diwydiant. Yn ôl Syr Stafford Cripps, Trwy ber- thynas ddynol, ac nid trwy enillion ariannol, y creir cyfeillgarwch, cyfiawnder, a chydweithrediad. Dyna oedd hanfod agwedd Crist at broblemau bywyd, a hanfod ei ddysgeidiaeth." 0 bawb yn y byd, gellid tybio mai'r olaf un i ganmol gwerthoedd y Gymdeithas Fechan fuasai Arthur Morgan, cyn-Lywydd Coleg Prifysgol Antioch, a chyn-Lywydd y Tennessee Valley Authority, a dwy fil o beirianwyr, a chan miliwn o ddoleri, o dan ei awdurdod, i wneuthur trefn ar wlad ehàngach na Chymru. Eto, dyna deitl y llyfr a'r astudiaeth a gyhoeddwyd ganddo wedi iddo ymddiswyddo o'r TVA (The Small Community, Arthur E. Morgan- Harper, 1942). Gwêl Arthur Morgan y peryglon mawr o ganoli awdurdod mewn gwleidyddiaeth, miisnach, a meddwl a'i feddyginiaeth a gymell yw diogelu, datblygu a dyrchafu cymeriad dyn yn ei gyfanrwydd, yn y cylch- oedd personol a Ueol. Dywaid Morgan fel peiriannydd na ellir adeiladu pont- ydd ar bropaganda rhaid sylwi ar y sylfeini a'r sylweddau, a threfnu yn ôl eu natur. A'r un modd gyda gwareiddiad. Y Gymdeithas Fechan-yr aelwyd, yr ysgol, y gymdogaeth,-yw mannau magwraeth gwreiddiau cymeriad, diwylliant, a chrefydd ymarferol, yn ôl Morgan. Ni wêl ef dasg bwysicach i wareiddiad na diogelu'r gymdeithas fach rhag eilunod yr oes a'u haddolwyr, sef technyddiaeth fodern, masnachyddiaeth, cynhyrchu ar raddfa fawr (mass production), propaganda, a llywodraeth wedi ei chanoli." Dibynna llwyddiant y Wladwriaeth yn y pen draw ar deyrngarwch dynion i'r cymdeithasau bach o'r tu mewn iddi. — Oswald R. D ivies. Y MAE MWY NAG UN IX. ELWYN JONES (1) W. ELWYN E. Jones, g. 1904, yn y Felinheli.­-Clarc Dinesig Dinas Bangor; yr Ymgeisydd Llafur dros Fwrdeisdrefi Arfon yn Etholiad 1945. (2) ELWYN Jones, g. 1905, yn y Gelli, Sir Frycheiniog. — Aelod o Gyngor Cenedlaethol Clybiau Ffermwyr Ieuainc, a'u Llywydd yn Sir Frycheiniog beirniad mewn Sioeau Amaethyddol yn y wlad hon, ac mewn rhai o wledydd De America, (3) F. ELWYN Jones, g. 1909, yn Llanelli.-Yr Aelod Senedd dros Ranbarth Plaistow. Essex aelod o Bwyllgor Prydeinig Troseddau Rhyfel awdur Hitler's Drive to the East, The Battle for Peace, The Attack from Within, etc. (4) ELWYN L. JONES, g. 1916, ym Mhontardulais. — Prif Drefnydd yr Urdd yn Neheudir Cymru,