Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CROCBRIS Gan LEO N. TOLSTOI (Cyfieithwyd gan T. Hudson-Williams) A R lan y Môr Canol, rhwng Ffrainc a'r Eidal, y mae teyrnas fechan fach Monaco yw ei henw, ac nid oes ynddi ond saith mil o drigolion, llai nag a geir mewn pentref mawr yn ein gwlad ni, a llai na thair acer o dir ar gyfer pob un o'r trigolion. Ond y mae ganddi frenin go iawn, a chanddo blas brenhinol, llys, gweinidogion, esgob, cadfridogion a byddin, ie, wir, byddin, er nad oes ynddi ond trigain o filwyr. Bychan yw incwm y brenin hwn, a'i sail ar drethi fel ymhob gwlad arall, treth ar faco, treth ar win a diod gadarn, treth ar bob pen o'r boblogaeth. Er yr holl smocio a'r yfed, ni chesglid digon o arian, hyd yn oed i fwydo'r brenin a'i weinidogion a'r mân swyddog- ion, ond bai am un ffynhonnell arbennig, sef ty gamblo â'r rwlét. Yno bydd pobl yn chwarae, weithiau'n colli, weithiau'n ennill, ond, popeth yn troi'n elw i'r perchennog, a rhaid iddo yntau dalu hyn-a-hyn o'i enillion i'r brenin. A chan mai hwn yw'r unig dy gamblo yn Ewrop, caiff y brenin swm go dda bob blwyddyn. Yr oedd gynt lu o'r fath dai yn nhiriogaethau mân dywys- ogion yr Almaen, ond bu raid cau pob un ohonynt ddeng mlynedd yn ôl, a dyma ichwi pam yr oeddynt yn peri gormod o ddifrod. Byddai llawer un yn dyfod i mewn, yn dechrau chwarae, yn colli yr hyn 011 a feddai, a pheth o'r hyn a feddai ei gymydog hefyd, ac wedyn, gan faint ei ofid, yn ei foddi neu ei saethu ei hun. Rhoes yr* Almaen y ffrwyn ar ei deiliaid ei hun, ond nid oedd neb a allai ffrwyno brenin annibynnol Monaco. Felly, pan fynno neb chwarae hap, i Fonaco yr â, a'r brenin a gaiff ran o'r arian a gyll. "Nid trwy lafur onest y ceir plasau godidog," medd yr hen air gwyr brenin Monaco mai budr yw ffynnon ei incwm ond, atolwg-beth a wna ? Y mae'n rhaid i ddyn fyw ac yn wir nid yw gamblo fawr gwaeth na smocio a hel diod. Diolch i'r moddion hyn, gall y darn brenin hwn grafu arian a theyrnasu'n rhwysgfawr, a byw'n ogoneddus ar ben ei ddigon fel gwir frenin. Wel ichwi, tua phum mlynedd yn ôl, fe lofruddiwyd dyn yn nheyrnas y darn brenin hwn, peth na ddigwyddodd erioed o'r blaen ymhlith y bobl heddychol hyn. Gwysiwyd y barnwyr ynghyd, ac aethpwyd ati, gan gadw holl ddefodau'r gyfraith. Yr oedd yno farnwyr, erlynwyr swyddogol, rheith- wyr a thwrneiod. Wedi dadlau a barnu yn ofalus a chydwybodol, pender- fynwyd torri pen y troseddwr. Popeth yn iawn. Gosodwyd y ddedfryd gerbron ei Fawrhydi darllenodd hi a chydsyniodd. Rhaid felly oedd gwein- yddu'r gosb ond, och, nid oedd na gilotin na dienyddwr yn y tir. Wedi hir fyfyr, penderfynodd gweinidogion y brenin, yn eu penbleth, ysgrifennu at Lywodraeth Ffrainc a gofyn am fenthyg gilotin, a gwr a wyddai sut i'w thrin carent hefyd wybod faint a gostiai'r gymwynas. Anfonwyd y llythyr; ym mhen yr wythnos cafwyd gair ò Ffrainc yn cynnig y peiriant a'r peiriannydd am 650p. Nid yw'r cnaf yn werth cymaint