Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y THEATR YN OES ELISABETH Gan R. WALLIS EVANS IV Y MAE'N bryd sôn yn awr am fanylion allanol a mewnol y theatr yn oes Elisabeth. Y mae rhai nodweddion y cytunir yn weddol gyffredinol arnynt yr oedd y chwaraedy, er enghraifft, yn gymharol fychan yr oedd fel rheol yn grwn neu yn wyth-ochrog yr oedd wedi ei wneud gan amlaf o goed this woóden O," meddir yn King Henry V. Felly am yr allanolion bethau. Yn awr am y theatr oddi mewn. Yr oedd y rhan ganol yn agored i'r awyr, ac o gwmpas yr oedd yr orielau, ond bod y rhain wedi eu cysgodi â tho o wellt. Yn un pen i'r theatr yr oedd y llwyfan, a deuai rhan flaen y platfform allan i ganol y gynulleidfa. Y tu cefn i'r rhan flaen oedd y middle stage," ac yr oedd dwy golofn, y proscenium arches", yn cynnal to gwellt i'w gysgodi. Wedyn deuai'r gallery neu'r upper stage," a thano yr inner neu'r rear stage, a orchuddid weithiau â math o arras. Yr oedd hefyd o leiaf dri drws yng nghefn y llwyfan, un bob ochr ac un yn y canol. Yr oedd, felly, mewn ffordd, bedair llwyfan-yr apron, y middle stage, y rear stage, a'r upper stage. Y mae digon o warrant tros y gyntaf a'r ail, ac y mae cyfeiriadau lawer at yr olaf, megis, Enter Romeo and Juliet Above," Enter aloft the Drunhard with attendants," Enter the King, and Buts, at a Windowe alôft." Am fodolaeth y drydedd y mae lleiaf o bendantrwydd. Y rheswm am hynny, i raddau, yw na chynhwysir hi yn narlun Johannes de Witt o'r Swan. Y mae'n fwy na thebyg, er hynny, mai o'r cof y tynnwyd y darlun, ac mai llithriad oedd gadael allan y llwyfan 61, oblegid gwyddom am ambell ddrama a chwaraewyd yn y theatr honno y buasai'n anodd iawn ei pherfformio oni bai fod inner stage yno. Ac, yn wir, ped aem i fanylu, gwelem fod llawer iawn o ddramâu Shakespeare y buasai'n amhosibl eu chwarae petai llwyfan oes Elisabeth yn union yr un fath â'r llwyfan a bor- treadir gan y gwr o'r Iseldiroedd. Y mae nifer o gyfeiriadau at inner stage o ryw fath er enghraifft, yn Romeo and Juliet dywedir, She faUs upon her bed within the curtains yn Alphonsus, King of Arragon, gan Robert Greene, Let there be a brazen Head set in the middle of the place behind the stage out of which cast flames óf fire ac yn Tamburlaine Part 2 o waith Marlowe, Scaena. ultima. The arras is drawn, and Zenocrates lies in her bed of state, Tamburlaine sitting by her." Rhaid bod yr. inner stage yn union o dan y gallery, neu'r upper stage, oblegid yn The Jew of MaUa syrth Barabas drwy dwll yn yr upper stage i gallawr isod "discovered at the opening of the curtains." Defnyddid y rear stage i bortreadu cell, ogof, bedd, pabell, carchar, ystafell wely, stydi, etc. Y mae digon o dystiolaeth hefyd am y drysau. Sonnir, er enghraifft, am an outer door," gan awgrymu mwy na dau. Ceir cyfeiriad hefyd at three doors a the middle door a rhaid bod yr olaf, felly, tu cefn i'r inner stage.