Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BRAD Y LLYFRAU GLEISION Gan DAVID THOMAS II DA beth oedd y Brad ? Yr oedd gan y Llywodraeth a'i hymchwilwyr eu diffygion, ond ni ellir cymhwyso'r gair Brad atynt hwy. Na, helynt rhwng yr Ymneilltuwyr a'r Eglwyswyr yng Nghymru oedd helynt y Brad. Yn y cyfnod hwn yr oedd gelyniaeth ddofn rhwng y ddwy blaid, debyg i'r elyniaeth a welwyd cyn hyn rhwng gweithwyr a'u meistriaid yn ein dyddiau ni. Gwelwyd ef ynglŷn ag addysg y plant — Eglwyswyr yn codi ysgolion i ddysgu crefydd ac egwyddorion yr Eglwys iddynt, a'r Ymneilltuwyr yn gwrthwynebu anfon eu plant i'r rheini, a'r meistriaid tir yn gwrthod rhoddi tir i adeiladu ysgolion anenwadol. Hefyd, yr oedd yr ymgyrch i ddatgysylltu'r Eglwys oddi wrth y Wladwriaeth wedi dechrau. Cyhoeddwyd ysgrifau yn erbyn talu'r degwm yn Seren Gomer cyn gyn- hared â 1830, ac yn 1833 sefydlwyd Cymdeithas Ddatgysylltiad yn Sir Feirionnydd. Cychwynnwyd symudiad cyffelyb yn Lloegr oddeutu'r un adeg, a chymerth dynion eu carcharu am wrthod talu'r degwm. Daeth Edward Miall yn arweinydd yn Lloegr, a sefydlodd The Nonconformist yn 1841, ac ysgrifennodd Ieuan Gwynedd gyfres o Welsh Sketches iddo. Yn 1836, daeth Deddf Talu'r Degwm i rym, yn gorchymyn talu r degwm mewn arian yn Ue mewn cynnyrch y ffarm cwynai'r flermwyr fod hyn yn galedi mawr arnynt, ac yr oedd yn un o achosion Helynt Rebeca yn 1839. Cynigiodd Syr James Graham Fesur Addysg yn y Senedd yn 1843 i roddi addysg plant y wlad yn gyfan gwbl yn nwylo offeiriaid yr Eglwys Wladol, a chynhyrfodd hyn gymaint o wrthwynebiad oddi wrth yr Ymneiîltuwyr nes gorfod tynnu'r Mesur yn ôl. Yr un flwyddyn, anfonodd Hugh Owen gylchlythyr i'r papurau Cymreig yn cymell sefydlu Ysgolion Prydeinig anenwadol ymhob ardal, a phenodwyd y Parch. John Phillips yn drefnydd dros Ogledd Cymru. (Gan fod yr Eglwyswyr â'u hysgolion eu hunain, tueddai'r ysgolion anenwadol i fod yn ysgolion yr YmneiUtuwyr). O hyn ymlaen, parhaodd brwydr ffyrnig rhwng yr Ymneilltuwyr a'r Eglwyswyr, ar bwnc Addysg ac ar bwnc Datgysylltiad, brwydr a wenwynodd fywyd crefyddol Cymru am lawer iawn o flynyddoedd. Chwerw iawn oedd dadleuon y cyfnod hwn, yng Nghymru ac yn Lloegr fel ei gilydd. Chwerw iawn oedd y dadleuon diwinyddol ymhlith yr Ym- neilltuwyr eu hunain, yn ogystal â'r dadleuon rhyngddynt a'r Eglwyswyr. Dyma a ddywaid awdur Saesneg: Nid yw dadleuon crefyddwyr yn niweidiol bob amser Ond am gwerylon crefyddwyr y pedwar-degau (1840's), yr elyniaeth rhwng Eglwys a Chapel, rhwng Pabydd a Phrotestant, rhwng Uchel-Eglwyswr ac Isel-Eglwyswr,ty mae'n amlwg fod y niwed yn gorbwyso'r manteision Yr oedd mwy o gynnen ynghylch crefydd ym Manceinion a Bradford yn y pedwar-degau nag a oedd yn yr Ymerodraeth Rufejnig yn nheyrnasiad Augustus" (J. L, a B, Hammond The Bleah